Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddigwyddiad a arweiniodd at ganfod dyn a oedd wedi cwympo i'r llawr ar y ffordd ger Fferm Cefn Mably yn Llanfihangel-y-fedw, Caerdydd.
Cafodd y dyn 35 oed, yr oedd rhywun wedi ymosod arno, ei ganfod gan aelod o'r cyhoedd ar Began Road am 6.15 neithiwr (nos Lun 6 Mehefin).
Aethpwyd ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, am driniaeth. Dywedir nad yw ei anafiadau yn rhai sy'n bygwth bywyd nac yn newid bywyd.
Dywedodd y Ditectif Ringyll, Greg Burns o Heddlu De Cymru:
“Cynhaliwyd ymholiadau helaeth i arestio'r unigolion dan amheuaeth neithiwr ac mae'r ymholiadau hyn yn parhau heddiw. Gall preswylwyr lleol ddisgwyl gweld mwy o swyddogion yr heddlu yn yr ardal ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.
“Gwyddom fod yr unigolyn yr ymosodwyd arno yn eistedd ger arhosfan bysiau ar Burnham Avenue, Tredelerch, tua 5.25pm pan gafodd ei orfodi i mewn i fan lwyd gan ddau ddyn anhysbys.
“Daeth y cerbyd o gyfeiriad Ball Road a gyrrodd i ffwrdd i gyfeiriad Countisbury Avenue. Daethpwyd o hyd iddo yn ddiweddarach ar dân ym Mryncyn, Pen-twyn.
“Rydym yn apelio ar unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardaloedd hyn sydd â deunydd fideo teledu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd a allai fod wedi ffilmio unrhyw ran o'r digwyddiad hwn i gysylltu â ni.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo gysylltu â Heddlu De Cymru drwy 101 neu https://bit.ly/SWPProvideInfo gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod *189180.