Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn parhau â'n hymchwiliad mewn perthynas â gwrthdrawiad traffig ffyrdd difrifol a ddigwyddodd tua 11.45am, ddydd Iau 9 Mehefin ar Heol Waun Wen, gerllaw'r gyffordd â Heol Tegid, Mayhill.
Dywedodd y Cwnstabl Victoria Langridge o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol:
“Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Ford Fiesta gwyn a merch pedair blwydd oed a oedd ar feic cydbwyso porffor adeg y gwrthdrawiad.
“Mae'r ferch yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ac mae ei theulu'n cael ei gefnogi gan swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.
Mae'r gyrrwr, dyn 24 oed, a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, wedi'i ryddhau ar fechnïaeth.
“Rydym yn apelio am unrhyw dystion a oedd yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad o bosibl, neu a all ddarparu gwybodaeth am symudiadau'r Ford Fiesta a'r ferch ar y beic cydbwyso cyn y gwrthdrawiad.
“Hoffwn siarad yn benodol ag unrhyw un sydd â deunydd fideo camera dashfwrdd neu deledu cylch cyfyng o'r digwyddiad.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru drwy ein gwefan, https://bit.ly/SWPProvideInfo neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2200192650.