Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd deuddeg o ddynion eu harestio yn dilyn cyfres o gyrchoedd wedi’u cynllunio o flaen llaw mewn cyfeiriadau yng Nghastell-nedd ac Abertawe ddoe (ddydd Mercher, 15 Mehefin), fel rhan o ymgyrch sydd â’r nod o chwalu grŵp troseddau cyfundrefnol sy’n cynhyrchu ac yn cyflenwi canabis yn ne Cymru.
Gweithredodd swyddogion yr heddlu o Tarian, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De Cymru, nifer o warantau mewn cyfeiriadau ledled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gyda chymorth gan swyddogion o Heddlu De Cymru.
Cafodd y dynion eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gynhyrchu canabis.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gareth Grant o Tarian:
“Roedd hwn yn ddull cydgysylltiedig o fynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol yn y rhanbarth rhwng Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian gyda chefnogaeth gan ein partneriaid yn Heddlu De Cymru.
“Mae Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian yn canolbwyntio ei hasedau ar y troseddau cyfundrefnol mwyaf difrifol sy’n digwydd ledled rhanbarth de Cymru ac yn genedlaethol.
“Diogelu ein cymunedau fydd ein blaenoriaeth o hyd. Mae swyddogion wedi gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau bod yr ymchwiliad yn cyrraedd y cam hwn, ac o ganlyniad, mae’r unigolion hyn wedi cael eu cyhuddo â throseddau yn ymwneud â chyffuriau ar raddfa fawr.
“Mae llwyddiant yr ymchwiliad hwn yn dangos ein bod yn benderfynol o ymlid y rhai sy’n ymwneud â throseddau ar raddfa fawr, er mwyn sicrhau cyfiawnder yn erbyn unigolion o’r fath a’u dwyn o flaen eu gwell.”
Aethpwyd â’r 12 o ddynion i Orsaf yr Heddlu Ffordd y Frenhines, Pen-y-bont ar Ogwr, lle cawsant eu holi.
Atafaelwyd swm sylweddol o dystiolaeth, a bydd y 12 o ddynion yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener 17 Mehefin, wedi’u cyhuddo o gynllwynio i gynhyrchu cyffuriau dosbarth B – canabis.
Enwyd y dynion fel a ganlyn:
Aurel Gjoshi, 27, o Odre’r Graig, Castell-nedd
Mario Vishi, 37, o Sandfields, Port Talbot.
Christopher Mace, 40, o Abertawe.
Deomald Sallufi, 27, o Abertawe.
Cornel Macoviciuc, 32, o Abertawe.
Vilson Tufa, 30, o Abertawe.
Ardjan Sherifi, 33, o Abertawe.
Admjerim Balla, 23, o Abertawe.
Florian Balla, 28, o Bontardawe.
Zorba Ardit, 25, o Abertawe.
Edi Toska, 27, o Abertawe.
Sadik Selemi, 27, o Gasnewydd.