Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Steven White wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes a bydd yn y carchar am o leiaf 26 o flynyddoedd.
Cafodd Jordan ei drywanu gan White mewn pabell yn Stryd Hansen, Butetown, Caerdydd, tua 9am ddydd Mawrth, 23 Tachwedd 2021.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys a staff o Ganolfan Huggard gerllaw, bu farw'r dyn 31 oed o'i anafiadau.
Gwnaeth White, 44 oed, ffoi ar gefn beic ac aeth i siopa ym Mharc Adwerthu Bae Caerdydd i brynu stereo yn Argos a llyfr yn Asda. Dywedodd wrth y swyddogion yn ddiweddarach ei fod wedi prynu'r rhain yn barod i'r carchar.
O fewn dwy awr i'r llofruddiaeth, cafodd White, 44 oed, ei arestio yn Stryd Habershon, Y Sblot.
Plediodd yn euog ar 8 Mehefin, 2022 - hanner ffordd trwy dreial yn Llys y Goron Caerdydd. Roedd yn ôl yn yr un llys heddiw i'w ddedfrydu.
Mae modryb Jordan, Delphine Darien, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol ar ran ei deulu:
“Ry'n ni'n dal i alaru am Jordan - mab, brawd, nai, cefnder, tad, a ffrind annwyl.
“Cafodd Jordan ei ladd mewn ffordd ffyrnig ar 23ain Tachwedd 2021 gan y diffynnydd Steven White am ddim rheswm amlwg. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar fywydau pawb a oedd yn ei adnabod a'i garu.
“Mae cyfiawnder wedi cael ei wasanaethu, ac er na ddaw â Jordan yn ôl atom, gallwn nawr gael llonydd i alaru.
“Bydd y boen o golli Jordan yn parhau am byth. Byddwn yn ei garu am byth hefyd.
“Hoffwn ddiolch i'r ditectifs a'r erlynydd a fu'n gweithio ar yr achos hwn, yn ogystal â Swyddog Cyswllt Teuluoedd Heddlu De Cymru, am eu cefnogaeth ac am ein diweddaru yn ystod y cyfnod yn arwain at y treial ac yn ystod y treial hefyd.
“Diolch i deulu a ffrindiau Jordan, ei frawd Tobias a'u tad, am eu cariad a'u cefnogaeth yn ystod y cyfnod torcalonnus hwn.
“Rwy'n gweddïo ar i Dduw ein cynnal a'n cysuro ni, teulu a ffrindiau Jordan, ar yr adeg anodd iawn hon.”
Datganiad gan Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies, yr Uwch-swyddog Ymchwilio:
“Roedd Jordan Cody-Foster yn fab, nai, cefnder, brawd a thad cariadus ac rydym yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau.
“Gobeithio y bydd y canlyniad yn Llys y Goron Caerdydd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur i bawb a oedd yn adnabod ac yn caru Jordan.
“Roedd ei farwolaeth yn ergyd i'r gymuned, yn arbennig y rhai sy'n gweithio ac yn byw yng Nghanolfan Huggard. Hoffwn ddiolch iddynt nid yn unig am eu dewrder ar y diwrnod a'u hymdrechion i achub bywyd Jordan, ond hefyd am eu cymorth yn ystod ein hymchwiliad.
“Yn anffodus, mae'r achos trychinebus hwn, unwaith eto, yn tynnu sylw at ganlyniadau ofnadwy a phellgyrhaeddol troseddau cyllyll.
“Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael â throseddau cyllyll drwy atal pobl rhag cario'r arfau hyn a chymryd camau cadarn yn erbyn y rheini y canfyddwn eu bod yn gysylltiedig â throseddau o'r fath.
“Os byddwch yn amau y gall rhywun fod yn cario cyllell, cysylltwch â'r heddlu. Yn syml, gallai siarad achub bywyd.”
Datganiad ar ran Richard Edwards, Prif Weithredwr Canolfan Huggard:
“Mae marwolaeth Jordan Cody-Foster wedi bod yn ofnadwy i bawb a oedd yn ei adnabod ac i'r rhai a fu'n dyst i'r trywanu angheuol a ddigwyddodd ger ein canolfan.
Er gwaethaf ymdrechion gorau aelodau o staff i arbed ei fywyd, bu farw Jordan yn y fan lle cafodd ei drywanu.
Ni allwn ddychmygu pa mor anodd yw hi i'r teulu ddod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd.
Sefydlwyd Huggard dros 30 mlynedd yn ôl i helpu pobl sy'n ddigartref ac yn cysgu allan ar strydoedd Caerdydd.
Mae pawb sy'n camu drwy ein drysau wedi dioddef mewn rhyw ffordd.
Mae bywydau'r rhan fwyaf o bobl rydym yn eu cefnogi yn ddrawmatig a chymhleth ac wedi eu llywio gan ddigwyddiadau o'r gorffennol a'u hamser ar y strydoedd.
Ni fyddwn fyth yn troi ein cefnau arnynt a hyd yn oed pan nad oes datrysiad hawdd neu gyflym, byddwn yn parhau i gynnig y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt - cyhyd ag y bydd ei hangen.”