Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn angladd Aryan Ghoniya ddydd Sadwrn, 25 Mehefin, hoffai ei deulu ddiolch i'r rhai a fu'n bresennol a hefyd roi manylion am gasgliad elusennol.
Ar ran teulu Aryan, hoffem ddiolch i chi gyd am eich geiriau caredig, eich cydymdeimlad, y blodau a'r gefnogaeth rydych chi wedi'u rhoi a'u dangos i ni, sydd wedi bod gymaint yn fwy nag y byddem wedi'i ddychmygu.
Roedd gweld nifer y teuluoedd a fentrodd i'r glaw i sefyll wrth ochr y ffyrdd, y cerbydau'n dod i stop ar gyfer yr orymdaith angladdol yn ystod taith olaf Aryan o'i gartref yn Danescourt, gan fynd heibio i'w hen ysgol gynradd, yna heibio i'w ysgol uwchradd yn Radur yn gwbl anghredadwy ac yn emosiynol iawn ac rydym yn diolch i bob un ohonoch am wneud hyn.
Unwaith eto, roedd y gynulleidfa a oedd wedi ymgynnull yn Amlosgfa Thornhill yn anghredadwy, gyda theulu a ffrindiau Aryan a oedd wedi dod i dalu eu teyrnged olaf. Hoffem ddiolch i bob un ohonoch am wneud trefniadau i deithio yno. Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i'w ffrindiau a wnaeth y penderfyniad dewr i gario Aryan i mewn i'r capel ar fyr rybudd. Roedd y dagrau o dristwch a welsom ar ddechrau ac yn ystod y gwasanaeth yn brofiad emosiynol iawn.
Roedd yr areithiau gan Mrs Judith Davies, prifathrawes ysgol gynradd Aryan a Mr Williams o Ysgol Uwchradd Radur yn rhai hollol ysbrydoledig am Aryan a hoffem ddiolch yn fawr iddynt. Gobeithio y bydd eich ymroddiad yn ysbrydoli plant i wireddu eu huchelgeisiau yn y dyfodol a bod unrhyw gymorth y mae ei angen arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn yn parhau.
Diolch yn arbennig i swyddogion Heddlu De Cymru a ddaeth i wasanaeth Aryan ac am eu gwaith a'u hymroddiad anhygoel yn gwasanaethu'r cyhoedd. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi'r cymorth rydym yn dal i'w gael gan y Ditectif Gwnstabliaid Natasha Monkley, Tom Slocombe a Bob Chambers.
Hoffem ddiolch i Drefnwyr Angladdau Coles am drefnu'r gwasanaeth mewn byr o amser, roedd eu proffesiynoldeb, drwy barchu ac anrhydeddu'r ffordd y byddai taith olaf Aryan yn cael ei chynnal yn berffaith, doedd dim byd yn ormod o drafferth iddynt, hyd yn oed pan oedd y teulu'n gofyn am bethau ar y funud olaf, ac rydym wir yn gwerthfawrogi hynny.
Yn olaf, i ffrindiau Aryan i gyd, hoffem ddiolch i chi am fod yn rhan o'i fywyd byr, peidiwch â digalonni, na beio neb, roedd ei amser yma yn fyr, trysorwch eich atgofion amdano a'u defnyddio i ysbrydoli'ch hun i fod y person rydych am ei fod a gwneud eich teulu'n falch, achos dyna fyddai Aryan am i chi wneud.”
Byddai rhieni Aryan, Jitu a Hina, wedi eisiau diolch i'r rhai a ddaeth i wasanaeth ffarwelio ag Aryan yn bersonol, ond oherwydd episod meddygol, daeth yr angladd i ben yn gynnar ac nid oedd hyn yn bosibl, ond rydym ni fel teulu yn diolch yn bersonol i bob un ohonoch am fod gyda ni i ffarwelio ag Aryan.
Gwelsom eich emosiynau, gwelsom eich dagrau, gwelsom eich tristwch, gwelsom eich cariad, gwelsom eich cefnogaeth, gwelsom yn ddiamheuaeth nad ydym ar ein pennau ein hunain a hoffem ddiolch o waelod calon i bob un ohonoch.
Diolch unwaith eto am eich holl gymorth caredig.
Mae teulu Aryan yn codi arian i Gymdeithas Gwylwyr y Glannau (The Coastguard Association) (Rhif Elusen Gofrestredig 279359) ac i Wish (Rhif Elusen Gofrestredig 1149499) er cof amdano. Bydd yr holl arian i'r ddolen ganlynol yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng y ddwy elusen.
Am 4.45pm ddydd Mawrth 21 Mehefin, cafwyd adroddiad am blant yn afon Taf ger Forest Farm Road, yr Eglwys Newydd, Caerdydd a bod un bachgen ar goll.
Cynhaliwyd chwiliad eang gan yr heddlu, yr adran dân, y gwasanaeth ambiwlans, gwylwyr y glannau a hofrennydd yr heddlu.
Daethpwyd o hyd i Aryan yn yr afon tua 5.45pm ac, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, ni lwyddwyd i'w ddadebru.
Hysbyswyd Crwner EM ac mae ymchwiliad yn mynd rhagddo i amgylchiadau'r digwyddiad.