Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn cyfeiriad yn Garth Avenue, Glyncoch, ger Pontypridd.
Cafodd y dyn ei ddarganfod gan gymydog ychydig ar ôl 11.00am ddydd Mercher 16 Mehefin 2022.
Mae wedi cael ei enwi'n ffurfiol fel Steven John Davies, a oedd yn 39 oed. Mae post-mortem wedi cael ei gwblhau heddiw, sydd wedi cadarnhau ei fod wedi marw o glwyf trywanu.
Mae menyw 34 oed o ardal Pontypridd wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae yn y ddalfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd. Rhoddwyd gwybod i deulu Steven, sy'n cael cymorth gan swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis: “Yn amlwg bod hwn yn ddigwyddiad dychrynllyd a gofidus i gymuned Glynoch ac ardal ehangach Pontypridd.
“Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Steven yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.
“Er ei fod yn ddatblygiad cadarnhaol ein bod wedi gallu arestio rhywun yn gynnar, rwy'n apelio o hyd am wybodaeth am symudiadau Steven rhwng 1 a 15 Mehefin.
“Credwn fod Steven wedi treulio rhywfaint o amser yn ardal Rhydyfelin, Pontypridd."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ei darparu drwy'r ddolen ganlynol: