Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teyrngedau'n cael eu talu i Aryan Ghoniya yng Ngerddi Windsor Radur, lle mae baneri Cymru ac India yn hedfan ar hanner y mast hefyd.
Gwnaeth teulu Aryan Ghoniya ddatganiad pellach a therfynol yn dilyn ei farwolaeth yn gynharach yr wythnos hon.
"Mae'r teulu wedi'u llorio gan farwolaeth drasig Aryan Ghoniya, mab annwyl Jitendra a Hina a brawd gofalgar Naviya. Rydym yn hynod ddiolchgar i'r holl wasanaethau brys am eu hymdrechion wrth chwilio am Aryan. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r heddlu am eu cefnogaeth barhaus.
"Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth a gafwyd gan y gymuned, Ysgol Gynradd Danescourt ac Ysgol Gyfun Radur, yr oedd ganddo feddwl mawr ohonynt. Diolch hefyd i staff yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
"Aryan oedd ein “Hathro Bach”, a oedd yn wych mewn Mathemateg, ac yn ddawnus ym mhob maes academaidd. Roedd yn fachgen hoffus a gofalgar â phersonoliaeth gynnes, yr oedd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei garu.
"Ni fydd yr un diwrnod yn mynd heibio pan na fyddwn yn ei golli, a bydd yn aros yn ein calonnau am byth.
"Rydym yn annog pob rhiant yn daer i esbonio peryglon chwarae mewn afonydd i'w plant. Nid ydym am i unrhyw riant arall wynebu'r drasiedi hon."
“Rydym hefyd yn gwerthfawrogi bod Gerddi Windsor yn Radur yn cynnig man tawel y gall ei ffrindiau ymweld ag ef, i adael neges neu deyrnged a chofio'r amseroedd hwyl a hapus y gwnaethant eu rhannu ag Aryan.
“Diolch i'r Cynghorydd Helen Lloyd Jones am alluogi hyn. Mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i ni, ond mae'r arwyddion o garedigrwydd, a gweld baneri Cymru ac India yn hedfan ar hanner y mast, yn rhoi rhywfaint o gysur i ni.
“Cafodd Aryan ei eni yng Nghymru, roedd yn falch o fod yn Gymro, ac rydym yn falch o fod yn rhan o'i deulu.
“Diolch i bawb am eich cefnogaeth.”
Am 4.45pm ddydd Mawrth 21 Mehefin, cafwyd adroddiad am blant yn afon Taf ger Forest Farm Road, yr Eglwys Newydd, Caerdydd a bod un bachgen ar goll.
Cynhaliwyd chwiliad eang gan yr heddlu, yr adran dân, y gwasanaeth ambiwlans, gwylwyr y glannau a hofrennydd yr heddlu.
Daethpwyd o hyd i Aryan, 13, yn yr afon tua 5.45pm ac, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, ni lwyddwyd i'w ddadebru.
Hysbyswyd Crwner EM ac mae ymchwiliad yn mynd rhagddo i amgylchiadau'r digwyddiad.