Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:54 08/06/2022
Mae Steven White o Sblot wedi cael ei euogfarnu o lofruddio Jordan Cody-Foster ar Hansen Street, Butetown, Caerdydd, ddydd Mawrth 23 Tachwedd 2021.
Plediodd White, 44 oed, yn euog ddydd Mercher, 8 Mehefin yn ystod treial yn Llys y Goron Caerdydd.
Caiff ei ddedfrydu yn ddiweddarach y mis hwn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Hansen Street yn fuan ar ôl 9am ar 23 Tachwedd yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi cael ei drywanu.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys a staff o Ganolfan Huggard gerllaw, bu farw Jordan Cody-Foster o'i anafiadau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies, yr Uwch-swyddog Ymchwilio: “Roedd Jordan Cody-Foster yn fab, nai, cefnder, brawd a thad cariadus ac rydym yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau.
“Gobeithio y bydd y canlyniad yn Llys y Goron Caerdydd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur i bawb a oedd yn adnabod ac yn caru Jordan.
“Roedd ei farwolaeth yn ergyd i'r gymuned, yn arbennig y rhai sy'n gweithio ac yn byw yng Nghanolfan Huggard. Hoffwn ddiolch iddynt nid yn unig am eu dewrder ar y diwrnod a'u hymdrechion i achub bywyd Jordan, ond hefyd am eu cymorth yn ystod ein hymchwiliad.
“Yn anffodus, mae'r achos trychinebus hwn, unwaith eto, yn tynnu sylw at ganlyniadau ofnadwy a phellgyrhaeddol troseddau cyllyll.
“Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael â throseddau cyllyll drwy atal pobl rhag cario'r arfau hyn a chymryd camau cadarn yn erbyn y rheini y canfyddwn eu bod yn gysylltiedig â throseddau o'r fath.
“Os byddwch yn amau y gall rhywun fod yn cario cyllell, cysylltwch â'r heddlu. Yn syml, gallai siarad achub bywyd.”
Caiff White ei ddedfrydu ddydd Gwener, 24 Mehefin.