Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
![]() |
![]() |
![]() |
Mae tri unigolyn wedi'u dedfrydu am lofruddio Logan Mwangi, pump oed, y daeth yr heddlu o hyd i'w gorff mewn afon ger ei gartref yn Sarn ym mis Gorffennaf 2021.
Ymddangosodd Angharad Williamson, 31, John Cole, 40, a Craig Mulligan 14 oed yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 30 Mehefin.
Cawsant eu heuogfarnu o lofruddio ac atal cwrs cyfiawnder yn ôl ym mis Ebrill. Yn y treial a barodd am 10 wythnos, clywodd y llys fod y diffynyddion wedi cynllwynio mewn ymgais i guddio llofruddiaeth Logan yn yr oriau yn dilyn ei farwolaeth.
Daeth swyddogion yr heddlu o hyd i gorff Logan yn afon Ogwr tua 6am ddydd Sadwrn, 31 Gorffennaf, yn fuan ar ôl cael galwad 999 gan fam Logan, Angharad Williamson.
Ceisiodd y diffynyddion ddarbwyllo'r swyddogion fod Logan wedi mynd ar goll dros nos ond cafodd y tri ohonynt eu harestio oherwydd amheuon y swyddogion.
Casglwyd tystiolaeth ddamniol gan y Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr dros y diwrnodau canlynol a chawsant eu cyhuddo o lofruddiaeth.
Canfu Post Mortem a gynhaliwyd gan y Swyddfa Gartref ar Logan ei fod wedi dioddef mwy na 56 o anafiadau y dywedodd patholegydd eu bod mor ofnadwy y byddech yn disgwyl eu gweld ar ôl i rywun gwympo o uchder mawr neu fod mewn gwrthdrawiad traffig difrifol.
Cafodd John Cole ei garcharu am oes a bydd yn y carchar am o leiaf 29 o flynyddoedd cyn y gellir ystyried ei ryddhau. Cafodd Angharad Williamson ei charcharu am oes a bydd yn y carchar am o leiaf 28 o flynyddoedd. Bydd Craig Mulligan yn cael ei gadw yn y ddalfa er pleser Ei Mawrhydi am o leiaf 15 mlynedd.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, Ditectif Arolygydd Lianne Rees, o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru:
“Mae'r dedfrydau heddiw yn adlewyrchu'r troseddau brawychus a gyflawnwyd ym mis Gorffennaf y llynedd.
“Mae'n amhosibl amgyffred bod bywyd Logan wedi cael ei dorri'n fyr dan amgylchiadau mor drasig gan y bobl hynny a ddylai fod wedi bod yno i'w amddiffyn.
“I dad Logan, Ben, sy'n sefyll wrth f'ymyl, mae'r dedfrydau heddiw i'w croesawu, ond ni all unrhyw gyfiawnder ddod â Logan yn ôl, na gwneud iawn am y galar sy'n parhau.
“Mae Ben, a'i deulu, wedi dangos cryfder anhygoel drwy gydol yr ymchwiliad a'r broses gyfreithiol. Mae'n anodd amgyffred yr hyn y maen nhw wedi bod drwyddo ond maen nhw wedi wynebu popeth â dewrder ac urddas aruthrol ar adeg mor anodd.
“Mae'r effaith y mae marwolaeth Logan wedi ei chael, ac yn parhau i'w chael, ar bawb a oedd yn ei garu a'i adnabod yn y gymuned leol, yn ddiamgyffred.
“Gan wybod bod cyfiawnder wedi'i weinyddu yn achos Logan, gobeithio nawr y gallan nhw ailadeiladu eu bywydau a dathlu'r llawenydd a roddodd iddyn nhw yn ystod ei amser gwerthfawr gyda nhw.
“Unwaith eto, hoffwn dalu teyrnged i broffesiynoldeb swyddogion yr heddlu a chydweithwyr yn y gwasanaethau brys a wynebodd y golygfeydd mwyaf trawmatig posibl ym mis Gorffennaf y llynedd.
“Hoffwn hefyd ddiolch i'm tîm o dditectifs a staff sydd wedi gweithio'n ddiflino ar yr ymchwiliad hwn, ynghyd â Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Cwnsler Erlyn. Mae ymdrechion pawb dan sylw wedi cyfrannu at ganlyniad heddiw.”