Dewrder, arloesedd, arweinyddiaeth, anhunanoldeb.
Dyma rai o'r rhinweddau a gafodd eu dathlu neithiwr ar ôl i #GwobrauTîmHDC ddychwelyd.
Ar ôl seibiant o ddwy flynedd oherwydd pandemig COVID-19, gwnaeth y noson yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, gydnabod swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid a aeth y tu hwnt i'w dyletswydd i'r heddlu a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Yr enillwyr ar y noson oedd:
- Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – PC Leanne Taylor a aeth ar drywydd gyrfa mewn plismona yn nes ymlaen mewn bywyd ar ôl gweithio ym maes cyllid. Nodir bod ei hymroddiad anhygoel i ddysgu Cymraeg yn ysbrydoliaeth i'w chydweithwyr.
- Cwpan y Siryfiaeth i Swyddog Cymunedol – PC Stuart Styles, a enillodd Gwpan y Siryfiaeth i Swyddog Cymunedol ar ôl ei farwolaeth am ei waith yn Adamsdown yng Nghaerdydd dros wyth mlynedd. Wrth enwebu ei ddiweddar gyd-weithwyr, dywedodd yr Arolygydd Gerallt Hughes: “Roedd Stuart yn Rheolwr Cymdogaeth traddodiadol – yn rhywun oedd yn cerdded y strydoedd, yn adnabod pawb, yn gwybod popeth, a phawb yn ei adnabod e. Mae ei ffrindiau, ei gydweithwyr a'r cymunedau a wasanaethodd yn ei golli'n fawr.”
- Gwobr y Filltir Ychwanegol i Wirfoddolwyr – Yr Arolygydd Gwirfoddol Andrew Suter, a ymunodd â'r Gwnstabliaeth Wirfoddol yn 1997. Ers hynny mae wedi mentora, cynllunio, gweithio ar ddigwyddiadau a lleihau galw. Mae wedi cael ei gydnabod am ei ddewrder hefyd.
- Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc yr Heddlu – Danny-Boy Wheadon, y dywedodd ei enwebwr amdano ei fod yn esiampl o'r cynllun gwirfoddoli. Mae Danny-Boy wedi helpu i hyrwyddo ymgyrchoedd, cymryd rhan mewn gweithrediadau, gwirfoddoli wrth liniaru llifogydd a gweithio i annog pobl i roi gwybod am droseddau casineb.
- Gwobr Calon Aur – PC Katie Butler, sydd wedi codi dros £6,000 i Ganolfan Canser Maggie's yn Abertawe gyda chymorth ffrindiau a theulu, neu “y posse”, wrth iddi wella o ganser.
- Gwobr Gwasanaeth Rhagorol i Bobl – DI Matt Powell, y mae ei ethos o gefnogi dioddefwyr a thystion drwy'r broses cyfiawnder troseddol ‘o'r drosedd i'r llys’, a hynny'n aml mewn achosion torcalonnus, wedi'i ganmol gan deuluoedd mewn galar a'i gydweithwyr.
- Gwobr Arloesedd – PC Richard Thomas, a luniodd gynllun i atal hen dariannau terfysg wedi'u difrodi rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Mae'n gweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i adeiladau tai gwydr gyda nhw.
- Gwobr Cydraddoldeb a Chynhwysiant – Sarah-Jayne Bray, cadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywiol Heddlu De Cymru. Fel rhan o'i rôl, mae wedi helpu pobl eraill i herio canfyddiadau, cyflwyno cyfres o weminarau datblygiad personol a gweithio i roi sylw i iechyd dynion.
- Gwobr y Defnydd Gorau o'r Cyfryngau Cymdeithasol – Tîm Plismona yn y Gymdogaeth Treganna, sydd wedi creu podlediadau i roi negeseuon mewn ystod eang o ieithoedd ac ar amryw lwyfannau i ddiwallu anghenion y gymuned leol amrywiol.
- Gwobr Partneriaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu – Cyd-enillwyr y wobr yw Gwirfoddolwyr Llysoedd HDC a'r tîm amlasiantaethol a wnaeth sicrhau euogfarnau a gwaharddiad oes i ddau unigolyn a wnaeth gam-drin nifer o anifeiliaid.
- Gwobr Gwaith Tîm Heddlu De Cymru – Adran TGCh HDC a gafodd ei chydnabod am ei dull gweithredu tîm cyfan o drawsnewid darpariaeth TG yr heddlu wrth i'r galw fwy na dyblu dros nos oherwydd pandemig COVID-19, ac a barhaodd i godi'n gyflym.
- Gwobr Arweinyddiaeth – Ditectif Uwch-arolygydd Mark O'Shea sydd wedi arwain timau mewn sawl ymchwiliad cymhleth a phroffil uchel dros y 3 blynedd diwethaf. Dywedodd ei enwebwr: “Mae Mark yn arweinydd cefnogol, empathetig a chynhwysol sy'n gwneud i'w dîm deimlo bod gwerth iddynt.”
- Gwobr Ymchwiliad y Flwyddyn – #YmgyrchFairfield, a welodd dditectifs yn gweithio gyda'r Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd – ac, yn ddyfeisgar, gyda chydweithwyr yn adran radioleg Ysbyty Athrofaol Cymru – i ganfod dryll a phrofi iddo gael ei ddefnyddio mewn digwyddiad yng Nghaerdydd. O ganlyniad, carcharwyd dau unigolyn.
- Gwobr Dewrder Eithriadol – PC Nathan Davies, a atebodd alwad am help yn Afon Clydach yn ystod tywydd stormus a pheryglus. Er iddo gael ei anafu a mynd yn anymwybodol ei hun, llusgodd PC Davies ei hun at y bobl a oedd wedi'u hanafu ar ôl dod ato ei hun a gwneud CPR tan i help pellach gyrraedd.
- Gwobr Cyflawniad Oes i Staff – Dawn Bellshaw-Jones o'r adran Troseddau Mawr, a ymunodd yn 1984. Dywedodd ei henwebwr: “Mae Dawn yn ofalgar a chefnogol, ac mae wir yn edrych ar ôl llesiant y tîm, sy'n bwysig iawn o gofio natur yr ymchwiliadau difrifol maent yn rhan ohonynt.”
- Gwobr Cyflawniad Oes i Swyddogion – y cyn Brif Uwch-arolygydd Dorian Lloyd, a wasanaethodd yn falch am 29 o flynyddoedd. Cafodd gyfnodau nodedig fel Pennaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol, Pennaeth Safonau Proffesiynol a Chomander Rhanbarthol Morgannwg Ganol.
- Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig - Rhoddwyd y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig i bob un o'n tri Thîm Gorfodi ar y Cyd (JETs). Sefydlwyd JETs ym mhob is-adran – Caerdydd a'r Fro, Morgannwg Ganol ac Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot – yn ystod y pandemig, ar y cyd ag awdurdodau lleol er mwyn ymgysylltu, esbonio, addysgu a gorfodi; tasg anodd pan oedd y cyfyngiadau'n newid mor gyson.