Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r ddau unigolyn a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ddydd Mawrth, 31 Mai yng Ngarej Northway, Llandeilo Ferwallt, Abertawe wedi cael eu henwi ac mae eu teuluoedd wedi talu teyrnged iddynt.
Roedd Kaitlyn Davies, 19 oed, yn dod o Flaen-y-maes, Abertawe. Mae ei theulu wedi talu teyrnged iddi, gan ddweud:
“Kaitlyn, ein merch fywiog, hoffus a charedig, roedd dy wên yn fwy disglair na'r haul ac yn goleuo pob man y buost ti.
“Mae ein calonnau yn torri, a mwy. Roeddet ti'n annwyl gan bawb a fu'n cwrdd â ti. Roedden ni yno drwy gydol dy fywyd a nawr bydd yn rhaid i'n hatgofion ohonot ti bara am weddill ein bywydau.
Mae'r holl gariad a ddangoswyd i ni wedi bod yn aruthrol ond nawr rydym yn gofyn i bawb barchu ein preifatrwydd.”
Roedd Ben Rogers, 19 oed, yn dod o Fôn-y-maen, Abertawe. Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud:
“Roedd Ben yn ddyn ifanc anhygoel, clyfar, ffraeth a pharod ei sgwrs. Roedd bob amser â gwên ar wyneb a fyddai'n goleuo'r ystafell pan ddaeth i mewn.
“Roedd yn berson mor gariadus a llawn gofal a oedd yn barod i siarad ag unrhyw un a fyddai'n fodlon gwrando, sy'n esbonio pam roedd ganddo gymaint o ffrindiau.
“Byddai bob amser yn barod ei gymwynas i unrhyw un mewn angen. Teg dweud ei fod yn byw ei fywyd i'r eithaf ac yn gwasgu pob mymryn o fwynhad â phosibl.
“Mae colli Ben wedi cael effaith ddwys iawn arnon ni ac, a dweud y gwir, rydym yn dal yn ddideimlad ar ôl y sioc, gan nad ydyn wir wedi dod i delerau â difrifoldeb yr hyn a ddigwyddodd.
“Roedd Ben yn fab i ni, ac yn annwyl iawn gan yr holl deulu ac nid oes modd mynegi'r golled a fydd ar ei ôl. Mae rhan o'n calonnau wedi torri ond gwnawn ein gorau i gadw'r cof amdano'n fyw am byth.
“Hoffem ddiolch i bawb am eu geiriau caredig, llawn cariad a chefnogaeth. Rydym yn ddiolchgar am bob un.
“Yn olaf, hoffem ddiolch i'r gwasanaethau brys a'r aelodau o'r cyhoedd a oedd yn bresennol ar y pryd ac a wnaeth eu gorau glas o dan amgylchiadau anodd.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad traffig ffordd a ddigwyddodd am 11.15pm, nos Fawrth, 31 Mai yng Ngarej Northway, Llandeilo Ferwallt, Abertawe.
Roedd y gwrthdrawiad un cerbyd, sef Alfa Romeo Mito coch, yn cynnwys pedwar o bobl.
Cafodd y ffordd ei chau am nifer o oriau tra bod gwaith ymchwilio yn cael ei wneud.
Hoffai'r heddlu glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ac nad yw wedi cysylltu eto, neu unrhyw un a welodd sut roedd yr Alfa Romeo coch yn cael ei yrru cyn y digwyddiad ac unrhyw un sydd â deunydd fideo o gamera dashfwrdd.
Cysylltwch â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2200182514.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo