Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr yn Heddlu De Cymru wedi cyhuddo Carrie McGuinness, 34 oed, o Ynys Close, Rhydyfelin, o lofruddio Steven John Davies. Bydd hi'n ymddangos gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 21 Mehefin.
Rhoddodd Donna, mam Steven, a'i chwaer, Adrianne, y deyrnged ganlynol iddo.
“Fy machgen bach pryderth sydd wedi cael ei gymryd yn greulon oddi wrthym. Mae ein calonnau wedi torri ac rydym wedi ein llorio'n llwyr. Mae ein bywydau wedi'u rhwygo a'u dinistrio ac ni fydd pethau byth yr un peth eto.
“Roedd gan Steven galon o aur a byddai'n helpu unrhyw un cyn meddwl amdano ef ei hun ac roedd wastad ganddo amser i unrhyw un. Roedd yn ddyn ifanc cwrtais a bonheddig iawn. Roedd yn frawd cariadus i Adrianne. Roedd yn dotio arni ac roedden nhw'n meddwl y byd o'i gilydd.
Roedd y teulu i gyd, ei ffrindiau ac unrhyw un a oedd wedi cwrdd ag ef, yn caru “Hagi”. Roedd yn ddyn poblogaidd ac annwyl iawn yn ardaloedd Rhondda a Phontypridd.
Byddi di yn ein calonnau am byth. Hedfan fry gyda Dadi, cariad xx”
Mae'r swyddogion sy'n ymchwilio i'r llofruddiaeth yn parhau i apelio am wybodaeth. Maen nhw am siarad ag unrhyw un a all fod wedi gweld Steven rhwng dydd Iau 2 Mehefin a dydd Sadwrn, 11 Mehefin.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis:
“Rwy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydym wedi'i chael gan nifer o gymunedau wrth i ni gynnal ein hymholiadau.
“Roedd Steven yn cael ei adnabod gan ei lysenw ‘Hagi’ gan lawer ac roedd yn adnabyddus iawn ar hyd a lled Glyncoch, Rhydyfelin a Llwynypia.
Ychwanegodd, “Rydym yn ceisio creu darlun o'i symudiadau ac yn annog unrhyw un a'i gwelodd i gysylltu os nad ydynt wedi gwneud hynny'n barod”.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru drwy'r ddolen ganlynol https://mipp.police.uk/operation/62SWP22B50-PO1
Llun o Steven Davies.