Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:30 22/06/2022
Mae teulu Aryan wedi rhyddhau llun ynghyd â'r datganiad canlynol:
“Mae'r teulu wedi'u llorio gan farwolaeth drasig Aryan Ghoniya, mab annwyl Jitendra a Hina a brawd gofalgar Naviya. Rydym yn hynod ddiolchgar i'r holl wasanaethau brys am eu hymdrechion wrth chwilio am Aryan. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r Heddlu am eu cefnogaeth barhaus.
“Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth a gafwyd gan y gymuned, Ysgol Gynradd Danescourt ac Ysgol Gyfun Radur, yr oedd ganddo feddwl mawr ohonynt. Diolch hefyd i staff yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
“Aryan oedd ein “Hathro Bach”, a oedd yn wych mewn Mathemateg, ac yn ddawnus ym mhob maes academaidd. Roedd yn fachgen hoffus a gofalgar â phersonoliaeth gynnes, yr oedd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei garu.
"Ni fydd yr un diwrnod yn mynd heibio pan na fyddwn yn ei golli, a bydd yn aros yn ein calonnau am byth.
"Rydym yn annog pob rhiant yn daer i esbonio peryglon chwarae mewn afonydd i'w plant. Nid ydym am i unrhyw riant arall wynebu'r drasiedi hon."
Am 4.45pm ddoe, (dydd Mawrth 21 Mehefin), cafwyd adroddiad am blant yn afon Taf ger Forest Farm Road, yr Eglwys Newydd, Caerdydd a bod un bachgen ar goll.
Cynhaliwyd chwiliad eang gan yr heddlu, yr adran dân, ambiwlans, gwylwyr y glannau a hofrennydd yr heddlu.
Daethpwyd o hyd i Aryan yn yr afon tua 5.45pm ac, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, ni lwyddwyd i'w ddadebru.
Hysbyswyd Crwner EM ac mae ymchwiliad yn mynd rhagddo i amgylchiadau'r digwyddiad.