Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:23 13/06/2022
Yr wythnos hon rydym yn cefnogi ymgyrch Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu i gydnabod a dathlu gwaith swyddogion heddlu ymatebol.
Bydd pwyslais arbennig yn cael ei roi ar les yn ystod wythnos gweithredu Lles a Chydnabod Plismona Ymatebol, ynghyd â gwneud swyddogion yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael iddynt a all helpu i roi sylw i broblemau pwysig fel blinder a chydnerthedd.
Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi gweithio gyda Oscar Kilo, Gwasanaeth Lles Cenedlaethol yr Heddlu (NPWS), y Coleg Plismona a Ffederasiwn yr Heddlu, i ddarparu amrywiaeth o ymgyrchoedd lles a chydnerthedd sydd wedi cael eu cyd-gysylltu'n benodol i ddiwallu anghenion swyddogion ymatebol.
Nid yw swyddogion mewn timau ymateb yn gwybod pa sefyllfaoedd y bydd rhaid iddynt eu hwynebu pan fyddant yn mynd i'r gwaith bob dydd. Rhaid iddynt fod yn barod i ymdrin ag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys sefyllfaoedd cymhleth a all fod yn wrthdrawiadol weithiau. Mae pob diwrnod yn wahanol, ac mae swyddogion yn y swyddi hyn yn dod o lawer o wahanol gefndiroedd ac yn gweithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau. Bydd yr wythnos yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r maes pwysig hwn o blismona.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Yn aml, swyddogion ymateb yw’r rhai cyntaf yn y fan a’r lle pan fydd angen ymateb brys ac maent yn delio ag ystod eang o faterion, gan gynnwys sefyllfaoedd cymhleth ac weithiau gwrthdaro. Rydych chi'n gwneud pethau anhygoel bob dydd i gadw ein cymunedau'n ddiogel ac rydw i'n arbennig o falch ohonoch chi a'r gwasanaeth rydych chi'n ei ddarparu.
“Gadewch i mi fod y diolch cyntaf i chi i gyd ar ran y sefydliad a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Bydd llawer o rai eraill yn mynegi eu diolch yn ystod yr wythnos, ac mae’r diolch hwn yn gwbl haeddiannol.”
Yn ystod yr wythnos hon byddwn yn arddangos gwaith rhai o’n swyddogion ymateb, gallwch weld y cynnwys hwn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #PlismonaYmateb