Stamp amser presennol: 18/07/25 17:44:05
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Anrhydeddau Pen-blwydd Jiwbilî'r Frenhines – dyfarnu MBE i Marcia Gittens o #TîmHDC

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 22:30 01/06/22

Marcia(3).png

Llongyfarchiadau i Marcia Gittens o #TîmHDC sydd newydd gael MBE ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd Jiwbilî'r Frenhines, a hynny ychydig wythnosau ar ôl ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol yn ei henwi'n Weithiwr Sifilaidd yr Heddlu y Flwyddyn.

A hithau'n cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth i Amrywiaeth mewn Plismona, gellir dadlau y bydd yr anrhydedd hwn i Marcia yn fwy cofiadwy na'r rhan fwyaf am ei bod yn ei gael yn ystod blwyddyn y Jiwbilî sy'n dathlu 70 mlynedd o wasanaeth digynsail Ei Mawrhydi.

Cafodd wybod hefyd bod ei henw wedi cael ei gyflwyno ar gyfer y gydnabyddiaeth fawreddog hon ar yr hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd i'w diweddar fam.

Mae Marcia wedi chwarae rôl hollbwysig i arwain newid ym maes plismona dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan sicrhau bod swyddogion, staff a chymunedau yn cael eu trin yn gydradd, gydag urddas a pharch.

Mae ei chyflawniadau niferus yn cynnwys bod yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Heddlu Du Heddlu De Cymru, y mae'n ei chydgadeirio ar hyn o bryd; arwain y gwaith o lunio adroddiadau a pholisïau lleol a chenedlaethol sy'n ymwneud â chydraddoldeb, recriwtio a chadw staff a hil, a rhoi cyngor arnynt; a gwaith gwirfoddol helaeth.

Gan sôn am y gymeradwyaeth frenhinol y mae wedi'i chael, dywedodd Marcia:

“Pan gyrhaeddodd y llythyr ar ben-blwydd fy mam, roeddwn i'n llawn dagrau. Ni allwn siarad. Roedd hi'n teimlo fel yr anrheg berffaith ganddi ac rwy'n gwybod y byddai wedi bod mor falch.

“Mae mor braf cael fy nghydnabod ond nid oes dim ohono – y gwaith rwy'n ei wneud na fy ngwaith gwirfoddol gyda Chymdeithas yr Heddlu Du ac eraill – yn cael ei wneud gen i ar fy mhen fy hun. Ni fyddai dim ohono yn bosibl heb gryn dipyn o gefnogaeth gan fy nheulu a'm ffrindiau gwych ac amyneddgar a rheolwyr a chydweithwyr da iawn.

“Allwch chi ddim ei wneud ar eich pen eich hun, felly byddwn ar fai pe na bawn yn cydnabod pawb sydd wedi fy helpu a'm cefnogi.

“Byddaf bob amser yn dweud pan fydd un yn ennill, bydd pawb yn ennill, ac rwy'n teimlo bod yr MBE hwn yn rhywbeth y gallwn i gyd ei rannu a'i ddathlu a bod yn falch ohono.”

Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan: “Mae Marcia yn llawn haeddu'r anrhydedd hwn. Ers ymuno â Heddlu De Cymru, mae wedi ymroi i wella plismona, gan sicrhau bod y gweithle yn lle tecach a mwy cyfartal i bawb ac, yn arbennig, y rhai a fu heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol, gan gynnwys menywod ac aelodau o'n cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

“Wrth i ni ymdrechu'n barhaus i greu gweithle mwy cynrychioliadol, bydd hyn o fudd i Heddlu De Cymru a'r bobl a wasanaethir gennym.

“Yn ddiweddar iawn enwyd Marcia yn Weithiwr Sifilaidd y Flwyddyn Cymdeithas Prydain ar gyfer Menywod yn yr Heddlu (BAWP) a Chymdeithas Ryngwladol y Plismonesau (IAWP) o ganlyniad i'w gwaith. Mae'r negeseuon o gefnogaeth a'r llongyfarchiadau y mae wedi'u cael gan gydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd fel ei gilydd yn dangos y parch mawr sydd gan bobl tuag ati.

“Rydym yn ffodus iawn ei bod yn rhan o #TîmHDC.”

Cysylltiedig: 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.