Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 22 oed o Gabalfa wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol ar ôl achos o drywanu yn Bute Place, Bae Caerdydd, yn ystod oriau mân y bore ddydd Llun, 6 Mehefin.
Aethpwyd â dyn 26 oed o Gasnewydd i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ag anafiadau nad ydynt yn berygl i fywyd nac yn golygu newid i fywyd.
Mae swyddogion yn ceisio dod o hyd i unrhyw un arall a oedd yn yr ardal ar y pryd, a wnaeth o bosibl weld yr hyn a ddigwyddodd, neu y mae ganddynt wybodaeth neu ddeunydd wedi'i ffilmio mewn perthynas â'r sawl dan sylw.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Lamerton o Heddlu De Cymru: “Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd wrthdrawiad traffig ffyrdd rhwng BMW a VW Golf ger adeilad Llywodraeth Cymru tua canol nos ac yna ffrwgwd rhwng grŵp o ddynion yn agos at Ganolfan Mileniwm Cymru.
“Rydym o'r farn fod cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad ac rydym yn cynnal ymholiadau helaeth i gadarnhau'r union amgylchiadau.
“Pan ddaeth aelodau dewr o'r cyhoedd i helpu'r dioddefwr, gwnaeth y sawl dan amheuaeth ffoi i gyfeiriad Canolfan Red Dragon.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd wedi'i ffilmio gysylltu â Heddlu De Cymru drwy 101 neu https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/ a dyfynnu rhif cyfeirnod 2200188250.
Er nad yw troseddau'n ymwneud â chyllyll yn rhan o fywyd beunyddiol yn Ne Cymru, mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithredu i atal problem rhag codi.
Mae cyfraddau troseddau'n ymwneud â chyllyll wedi lleihau 9% yng Nghymru a dim ond lleiafrif o'n poblogaeth y maent yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, gall unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud â chyllell arwain at ganlyniadau trychinebus i'r bobl dan sylw.
Ein nod, drwy ein hymgyrch #DdimYrUn, yw addysgu pobl ifanc ynghylch peryglon cario cyllell drwy roi'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i rieni, athrawon a grwpiau cymunedol wneud hyn.
https://www.nottheone.co.uk/cy/