Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma'r dystiolaeth a roddwyd gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan cyn y drafodaeth ar dechnoleg adnabod wynebau a gynhaliwyd yn Ysgol Economeg Llundain ar 14 Mehefin 2022.
“Rwy'n croesawu'r cyfle i fod yma heno, i gyfrannu at y ddadl ar p'un a oes rôl ddilys ar gyfer system adnabod wynebau ym maes plismona a gorfodi'r gyfraith. Credaf fod yna rôl, ac i bob golwg, mae'r mwyafrif o'r cyhoedd yn rhannu'r farn hon.
Mae gan yr heddlu ddyletswydd i atal trosedd ac anhrefn a diogelu'r cyhoedd, ond rydym yn gwneud hynny gyda chymeradwyaeth a chydsyniad y cyhoedd. Felly, wrth roi'r ddyletswydd hon ar waith, rhaid i gamau gweithredu plismona fod yn ddilys – hynny yw, rhaid i beth bynnag y mae'r heddlu'n ei wneud fod yn gymesur, yn gyfreithlon ac yn angenrheidiol.
Rhaid i'r cydbwysedd rhwng rhyddid a hawliau pobl a defnydd yr heddlu o bŵer (a chymhwyso technolegau newydd i hwyluso'r defnydd hwnnw) barhau i fod ar flaen ein meddyliau drwy'r amser. Rhaid i'r ddadl mai'r ddyletswydd yma yw plismona er mwyn gweithredu o fewn y gyfraith a bod y gyfraith honno'n ddigonol, barhau.
Mae'r dirwedd droseddol yn mynd yn fwyfwy cymhleth a soffistigedig a rhaid i orfodi'r gyfraith arloesi er mwyn i ni allu ymateb i'r cymhlethdod hwn a diogelu'r rhai sydd ein hangen ni fwyaf. Yn yr oes ddigidol hon, mae technoleg wedi creu rheng flaen newydd o droseddau a throseddau sy'n dod i'r amlwg.
Wrth ddefnyddio Technoleg Adnabod Wynebau, swyddog yr heddlu fydd yn gwneud y penderfyniad bob tro, gan dynnu oddi ar ei brofiad a'i wybodaeth. Mae'n bwysig na fydd unrhyw dechnolegau newydd yn rhwystro disgresiwn swyddogion unigol rhag gwneud penderfyniad mewn unrhyw set benodol o amgylchiadau.
Mae plismona wedi treulio llawer o amser ac wedi gwario llawer o arian cyhoeddus yn ceisio adnabod a dod o hyd i droseddwyr a phobl agored i niwed. Mewn llawer o achosion, treuliwyd cannoedd o oriau'n chwilio am unigolion, a hynny heb lwyddiant.
Nid yw pob defnydd o dechnoleg adnabod wynebau ym maes gorfodi'r gyfraith yr un peth. Mae plismona wrthi'n defnyddio'r dechnoleg mewn tair ffordd wahanol:
Ym mhob achos, swyddog yr heddlu neu'r aelod o staff sy'n gwneud y penderfyniad ar sut i ddefnyddio'r wybodaeth yn y pen draw.
Mae Heddlu De Cymru wedi defnyddio System Adnabod Wynebau Ôl-weithredol ers 2017 yn erbyn delweddau a gedwir yn gyfreithlon ar ein system delweddau a dynnwyd yn y ddalfa.
Cyn y defnydd o system ôl-weithredol, byddai swyddogion yn dosbarthu delweddau yn fewnol ac yn allanol gan gymryd o leiaf ddeg diwrnod ar gyfartaledd i adnabod wyneb, os oedd un yn cael ei hadnabod o gwbl. Roedd yn dibynnu'n helaeth ar swyddog yn gweld delwedd ac yn adnabod troseddwr.
Nawr, pan fydd gennym ddelwedd o rywun dan amheuaeth, byddwn yn defnyddio'r dechnoleg i chwilio am gyfatebiaeth ag un o'r delweddau o gronfa ddata'r ddalfa. Yn amlach na pheidio, caiff delweddau eu cyfateb ar yr un diwrnod ag y cânt eu cyflwyno, o fewn munudau yn aml iawn.
Mae'r arbedion effeithlonrwydd o fewn y broses adnabod ei hun yn enfawr, ond yn bwysicach na hynny, maent yn gwella ein gallu i ddiogelu dioddefwyr a dod â throseddwyr gerbron llys barn.
Ers defnyddio'r dechnoleg, mae Heddlu De Cymru wedi cyfateb bron i 4,000 o ddelweddau posibl, sef 100 y mis ar gyfartaledd.
Mae wedi cael ei defnyddio'n llwyddiannus ar gyfer pob math o droseddau, o lofruddiaeth i droseddau llai. Mae'r dechnoleg wedi helpu Heddlu De Cymru yn sylweddol i ddwyn troseddwyr gerbron llys barn, ac yn ei dro, helpu i amddiffyn dioddefwyr troseddau.
Er enghraifft, ym mis Tachwedd 2019, dywedodd menyw fod rhywun wedi ymosod arni ar fws yng Nghaerdydd. Tynnodd ei sgrechian sylw at y digwyddiad a rhedodd yr unigolyn dan amheuaeth i ffwrdd.
Gan ddefnyddio delwedd aneglur oddi ar deledu cylch cyfyng ar fws, bu modd i'r dechnoleg helpu i adnabod yr unigolyn yn llwyddiannus yn erbyn delwedd a dynnwyd yn y ddalfa 14 o flynyddoedd yn ôl.
O ganlyniad, cafodd dyn a oedd eisoes wedi treulio hanner ei fywyd yn y carchar am ymosodiadau ar fenywod, ei ddedfrydu i ddau gyfnod oes, a fyddai'n rhedeg ar yr un pryd.
Heb system Adnabod Wynebau Ôl-weithredol, byddai'r ddelwedd teledu cylch cyfyng wedi cael ei throsglwyddo i swyddogion lleol, yna ar raddfa ehangach o fewn yr heddlu, gan gynnwys apêl i'r cyhoedd o bosibl, er mwyn helpu i adnabod unigolyn dan amheuaeth. Mae'n bosibl na fyddem fyth wedi dod o hyd iddo oherwydd nid oedd wedi bod yn un o'n dalfeydd ers 14 o flynyddoedd, ac felly byddai llawer o swyddogion yr heddlu a oedd yn gweithio'n lleol wedi symud ymlaen neu hyd yn oed wedi ymddeol o'r maes plismona.
Mae Technoleg Adnabod Wynebau byw wedi cael ei defnyddio mewn dros 70 o achlysuron sy'n cynnwys defnydd mewn digwyddiadau mawrion, cyngherddau pop ac ymgyrchoedd troseddau.
Mae hyn wedi arwain at adnabod ac arestio 75 o unigolion am droseddau sy'n cynnwys trais a throseddau difrifol eraill.
Rydw i'n ymwybodol iawn fod y dechnoleg eisoes wedi'i mabwysiadu gan gymdeithas ehangach a'r sector preifat. Dydw i ddim yn rhoi sylwadau ar y defnydd ohoni y tu allan i'r maes plismona, gan mai mater i bobl eraill yw hynny.
Ond mae'n iawn bod gorfodi'r gyfraith yn destun y lefel uchaf o ran craffu. Wedi'r cyfan, ni all yr un ohonom ddewis pa heddlu i'w ddefnyddio, caiff y dewis hwnnw ei wneud ar ein rhan ac felly, dylem fod yn destun craffu eithriadol.
I'r perwyl hwnnw, rwy'n croesawu'r gwaith craffu a ddarperir gan Reoleiddwyr a Chomisiynwyr cenedlaethol, ynghyd â'r gwaith craffu lleol sy'n cael ei ddarparu gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn destun dau achos cyfreithiol mewn perthynas â defnyddio System Adnabod Wynebau Byw: y cyntaf yn y Llys Rhanbarthol a'r ail yn y Llys Apêl.
Er bod y Llys Apêl yn adnabod y sail gyfreithiol ar gyfer plismona er mwyn defnyddio System Adnabod Wynebau Byw yn agored, mae hefyd wedi rhoi cyfarwyddyd bod angen i Heddlu De Cymru wneud mwy o ran ‘pwy’ y gellir eu rhoi ar restr wylio a ‘ble’ y gellir defnyddio'r dechnoleg. Mynnodd y Llys y bu gan yr heddlu ormod o ddisgresiwn yn y maes hwn.
Aeth y Llys ati i ddatgan fod Cod y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth yn ymdrin â'r materion hynny, ac mewn egwyddor, gallai ymdrin yn benodol â pha ofynion sydd i gynnwys pobl ar restr wylio'r heddlu. Yn y bôn, dangosodd y Llys y ffordd ar gyfer cael Cod Ymarfer a/neu bolisïau lleol i unioni'r materion a ganfuwyd gan y Llys.
Cafodd Cod y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth eu diwygio ym mis Awst 2021, gan fabwysiadu elfennau o farn y Llys Apêl fel ag y gwnaeth ein dogfennau polisi. Mae'r rhain ar gael i'w defnyddio gan y cyhoedd ac maent ar ein gwefan.
Ers hynny, mae'r Coleg Plismona, fel corff proffesiynol plismona, wedi cyhoeddi'r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig ar gyfer y Defnydd Agored o System Adnabod Wynebau Byw. Unwaith eto, mae hyn yn seiliedig ar farn y Llys a Chod (diwygiedig) y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth.
Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn gamau pwysig wrth ddarparu arferion a chanllawiau cymeradwy mewn fformat ar-lein cyfunol, sy'n sicrhau dull cyson a chyfatebol i'r holl heddluoedd ar sail genedlaethol.
At hynny, er bod y Llys wedi cydnabod nad oedd tystiolaeth glir fod y System Adnabod Wynebau Byw yn dangos rhagfarn ar sail hil neu ryw, roeddent yn gofyn i'r heddlu wneud popeth o fewn eu gallu i ddiwallu eu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, er mwyn deall y rhagfarnau posibl.
Mae plismona'n mynd i'r afael â hyn mewn tair ffordd wahanol. I ddechrau, defnyddio astudiaethau a gynhaliwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg.
Yn ail, ceisio cael eglurder gan gyflenwyr mewn perthynas â'u perfformiad gwahaniaethol demograffig.
Yn olaf ac o'r arwyddocâd mwyaf, mae plismona wedi comisiynu'r gwerthusiad gweithredol academaidd annibynnol mwyaf mewn perthynas â thegwch, gan ganolbwyntio ar oedran, rhywedd ac ethnigrwydd ar draws y tri achos o ddefnyddio system adnabod wynebau dynodedig. Mae'r astudiaeth hon yn mynd rhagddi ar hyn o bryd ac yn cael ei harwain yn annibynnol gan y Labordy Ffisegol Cenedlaethol a bydd y canlyniadau ar gael ym mis Hydref 2022.
Ar ôl bod yn destun dwy broses llys a chymryd rhan yn gadarnhaol ynddynt, fy marn i yw bod gennym ddyletswydd i wthio ymlaen i ddefnyddio'r dechnoleg a fydd yn helpu i ddiogelu'r cyhoedd.
Wrth i'r dechnoleg newid ac addasu, mae'n bosibl y bydd angen ailedrych ar y dirwedd gyfreithiol y mae plismona yn gweithredu ynddi. Rydym yn byw mewn cymdeithas ddemocrataidd, wrth i safbwyntiau cymdeithas newid, bydd angen i wneuthurwyr cyfraith ystyried hyn yn barhaus, ac yn y dyfodol, mae'n bosibl y bydd rôl ar gyfer fframwaith deddfwriaethol gwahanol, gwiriadau a balansau gwahanol a chanllawiau newydd.
Nid oes amheuaeth bod her sylweddol o'n blaenau o ran parhau i esbonio'r ffordd y mae plismona'n defnyddio Technoleg Adnabod Wynebau.
Profiad Heddlu De Cymru yw pan fyddwn yn esbonio'r ffordd y mae plismona yn defnyddio'r dechnoleg yn effeithiol, mae'r cyhoedd yn aml yn gefnogol iawn, ac weithiau'n rhwystredig hyd yn oed nad ydym yn defnyddio'r dechnoleg ar raddfa lawer ehangach.
Mae'n bwysig nodi hefyd nad yw Heddlu De Cymru wedi derbyn unrhyw gwynion nac wedi gwneud unrhyw ffug arestiadau mewn perthynas â'r defnydd o'r dechnoleg.
Nododd astudiaeth Sefydliad Ada Lovelace fod 71% wedi cytuno â'r gosodiad, “the police should be able to use facial recognition on in public spaces, provided it helps reduce crime”.
Mae Barn y Comisiynydd Gwybodaeth, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, hefyd yn cynnwys adran ar ganfyddiadau'r cyhoedd a ddangosodd fod 82% o ymatebwyr wedi nodi eu bod yn teimlo ei bod hi'n dderbyniol i'r heddlu ddefnyddio'r dechnoleg.
Rydw i'n gwbl argyhoeddedig o'r fantais y mae Technoleg Adnabod Wynebau wedi'i chael ar blismona er mwyn helpu i ddod o hyd i droseddwyr a'u hadnabod, yn ogystal â diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Wrth symud ymlaen, rwy'n credu y gallai'r dechnoleg ym mhob achos defnydd gael mwy o rôl i'w chwarae wrth ddiogelu pobl ac felly, rwy'n credu bod rôl ddilys i adnabod wynebau ym maes plismona a gorfodi'r gyfraith.