Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd am 11.15pm neithiwr yng Ngarej Northway, Llandeilo Ferwallt, Abertawe.
Roedd y gwrthdrawiad un cerbyd, sef Alfa Romeo Mito coch, yn cynnwys pedwar o bobl.
Datganwyd bod dyn ifanc o Landŵr a menyw 19 oed o Flaen-y-maes wedi marw yn y digwyddiad.
Cafodd merch 17 oed o Ben-lan ei chludo mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol iawn ac aethpwyd â bachgen 17 oed o Birchgrove i'r ysbyty gydag anafiadau nad oeddent yn peryglu ei fywyd.
Mae'r teuluoedd yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbenigol.
Cafodd y ffordd ei chau am nifer o oriau tra bod gwaith ymchwilio yn cael ei wneud.
Gofynnir i unrhyw un a all gynorthwyo swyddogion yn yr ymchwiliad hwn gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2200182514.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo