Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:00 14/06/2022
Mae eleni yn nodi 40 mlynedd ers Rhyfel y Falklands, rhyfel heb ei ddatgan rhwng y Deyrnas Unedig a'r Ariannin dros sofraniaeth yr Ynysoedd Falkland, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De.
Parodd y gwrthdaro 74 o ddiwrnodau - ond hon oedd yr ymgyrch filwrol gyntaf ers yr Ail Ryfel Byd lle cafodd pob cangen o luoedd arfog Prydain ei defnyddio ar yr un pryd.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae teyrngedau wedi cael eu talu i'r rhai a fu'n gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog yn ystod y rhyfel. Mewn gwasanaeth coffa a gynhaliwyd wrth Gofeb Rhyfel y Falklands yng Nghaerdydd ar 5 Mehefin, siaradodd y Prif Gwnstabl o flaen cyn-filwyr o'r rhyfel a gymerodd ran mewn taith feicio er cof am y rhai a fu farw yn y gwrthdaro.
Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan gyda Halberdiers Heddlu De Cymru. Llun: Abigail Greentree
Cyn dechrau ar y daith feicio, dywedodd wrthym:
“Rwy'n falch i fod yma heddiw yn cynrychioli'r heddlu ac yn dangos ein cefnogaeth i gymunedau'r lluoedd arfog. Mae'n hynod bwysig ein bod yn codi ymwybyddiaeth o gyfraniadau’r rhai a frwydrodd yn Rhyfel y Falklands. Ni ddylid byth anghofio eu dewrder.”
Fideo: Abigail Greentree
Cynhaliwyd gwasanaeth arall wrth y Deial Haul Coffa ym mhencadlys yr heddlu ar 14 Mehefin a roddodd gyfle i gydweithwyr dalu teyrnged. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jenny Gilmer a gorffennodd gyda dwy funud o dawelwch gan gydweithwyr.
Wrth gofio Rhyfel y Falklands, rydym hefyd wedi cysylltu â nifer o gyn-gydweithwyr, a fu'n gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog yn y Falklands cyn eu gyrfaoedd mewn plismona. Roedd cyn-Ringyll yr Heddlu Andy Roberts yn un o'r rhai y gwnaethom sgwrsio ag ef.
Stori Andy
Ymunodd Andy â Llynges Frenhinol Ei Mawrhydi yn 1980 fel Gweithredwr Radar. Erbyn mis Ebrill 1982, roedd Andy, a oedd wedi cael hyfforddiant radar arbenigol, ar fwrdd yr HMS Andromeda yn Ne'r Iwerydd. Un o rolau amrywiol y llong hon oedd diogelu llong awyrennau Task Force a darparu cymorth i awyrennau yn ystod amser lansio. Pan wnaethom sgwrsio ag Andy, disgrifiodd i ni'r teimlad o ddychwelyd adref o'r rhyfel:
“Gwnaethom ddychwelyd i Plymouth ym mis Medi 1982 ar ôl cyfnod o 5 mis. Yn fy marn i roeddem ni i gyd yn teimlo'n hynod lwcus ac yn ddiolchgar ein bod yn gallu dychwelyd at ein teuluoedd – yn wahanol i nifer o'n brodyr a fu farw.
Mae mor bwysig ein bod yn atgoffa'r cyhoedd am gyfraniadau'r nifer o filwyr Prydeinig a frwydrodd yn Rhyfel y Falklands. Mae eu dewrder yn haeddu cael ei gydnabod a'i rannu â chenedlaethau'r dyfodol.”
Andy yn ystod ei wasanaeth gyda'r Llynges Frenhinol
Yn 1989, ar ôl naw mlynedd o wasanaeth gyda'r Llynges, ymunodd Andy â Heddlu De Cymru. Mewn gyrfa a barodd dros ugain mlynedd, bu'n gwasanaethu cymunedau yng nghanol dinas Abertawe, y Mwmbwls, Gŵyr a Gorseinon. Yn ystod ei amser yn Abertawe, enillodd Wobr y Gymdeithas Ddyngarol Frenhinol am achub dyn o'r dŵr ym Mae Abertawe. Yn 2021, gwnaeth Andy ymddeol fel Rhingyll ar ôl gweithio gyda'r Adran Gŵn am bedair blynedd.
Andy yn ystod ei amser gyda'r Adran Gŵn
40 mlynedd ar ôl Rhyfel y Falklands, rydym yn canmol dewrder pobl fel Andy a frwydrodd yn y gwrthdaro. Rydym hefyd yn talu teyrnged i'r rhai a fu farw ac yn eu cofio. Ni chaiff eu haberth ei anghofio.