Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd ar Harbour Way, Port Talbot ddydd Mawrth 27 Medi, wedi'i enwi'n Ian Christopher Seaborn, 62 oed, o Dreforys, Abertawe.
Mae ei deulu wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
"Roedd yn fab, yn dad, yn frawd ac yn ewythr annwyl, a byddai ei wên a'i goegni bob amser yn llenwi'r ystafell â llawenydd a chwerthin.
"Byddwn yn gweld ei eisiau'n fawr iawn ac yn ei garu am byth xxx."
Rydym yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd rhwng dau gar – Skoda Octavia a Ford Fiesta – am 2.40pm ddydd Mawrth 27 Medi 2022 ar ffordd gerbydau’r A4241 Harbour Way tua'r dwyrain ym Mhort Talbot.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys a oedd yn bresennol, bu farw gyrrwr y Fiesta yn y fan a'r lle.
Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un nad yw wedi cysylltu â ni eisoes a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu sydd ag unrhyw ddeunydd fideo o gamera dashfwrdd, neu a stopiodd i helpu.
Cysylltwch â ni fan hyn gan ddyfynnu cyfeirnod 2000456336.