Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:09 26/09/2022
Mae'r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol yn digwydd rhwng 26 Medi a 2 Hydref a'r nod yw dathlu cynhwysiant o bob math.
Yma yn Heddlu De Cymru, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu amrywiol a chynhwysol ac mae sawl menter ar waith gennym i gyflawni hyn.
Rydym yn ymfalchïo'n arbennig yng ngwaith ein cymdeithasau a'n rhwydweithiau staff, sy'n gwneud gwaith anhygoel er mwyn helpu i greu lleoedd diogel i'r rhai o fewn yr Heddlu a'r rhai yn y gymuned.
Mae ein rhwydweithiau yn cael eu rhedeg gan swyddogion a staff, a hynny'n aml yn eu hamser rhydd, ac maen nhw'n dylanwadu'n fawr ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud o fewn yr Heddlu.
Gallwch ddarllen mwy am bob rhwydwaith isod.
Cafodd Cymdeithas yr Heddlu Du De Cymru ei sefydlu yn 1999 a'i nod yw gwella ymddiriedaeth a hyder rhwng yr heddlu a chymunedau ethnig leiafrifol. Mae holl aelodau'r Gymdeithas yn perthyn i gymunedau ethnig ac yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi ei gilydd, yn ogystal â'r gymuned ehangach.
Mae'r cyd-gadeiryddion PC Bharat Narbad a Marcia Gittens wedi bod yn rhan o'r Gymdeithas o'r dechrau ac maen nhw'n gweithio i wella amgylchedd gwaith swyddogion a staff o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn yr Heddlu a gwella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i'n cymunedau. Maen nhw'n gwneud hynny drwy ddadlau dros gyfle cyfartal, helpu gyda datblygiadau yn yr heddlu, cefnogi aelodau gyda chwynion a throsglwyddo arferion da o heddluoedd eraill.
Meddai PC Narbad, “Mae'n bwysig cael grŵp cymorth sy'n gallu uniaethu â staff sydd â nodwedd arbennig. Dyfyniad sy'n arbennig o effeithiol yn fy ngwaith i yw ‘cydraddoldeb yw cael eich gwahodd i ddigwyddiad, ond cynhwysiant yw pan fydd rhywun yn gofyn i chi ddawnsio yn y digwyddiad hwnnw’. A dyna'n union beth yw diben Cymdeithas yr Heddlu Du, bod yn rhan greiddiol o ddigwyddiadau pwysig.”
Mae Cymdeithas Gristnogol yr Heddlu yn rhan o rwydwaith cenedlaethol i Gristnogion ym maes plismona, a'i nod yw rhoi cymorth gan adeiladu pontydd rhwng y gymuned Gristnogol a'r heddlu ar yr un pryd.
Cafodd ein Rhwydwaith Cymorth i Bobl Anabl ei sefydlu i roi cymorth i'r rhai sydd ag anabledd neu sy'n gofalu am rywun ag anabledd. Mae'r Rhwydwaith yn ceisio tynnu sylw at gymhlethdodau'r rhai sydd ag anabledd a sicrhau bod mesurau ar waith yn y gweithle i'r rhai sydd eu hangen.
Cafodd Cymdeithas yr Heddlu Benywaidd, fel yr oedd ar y pryd, ei sefydlu yn 2001 i hyrwyddo menywod ym maes plismona ac yna cafodd ei datblygu i greu ein Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywiol. Rhwydwaith o gydweithwyr o bob rhan o'r Heddlu yw hwn sy'n cydweithio i greu gweithle cadarnhaol i bawb o bob rhyw drwy helpu i newid polisi, hyrwyddo mentrau iechyd a llesiant, ac annog cynrychiolaeth deg ar bob rheng ac ym mhob rôl.
Meddai Cadeirydd y Rhwydwaith, Sarah Bray: “Nid clwb i fenywod yn unig yw hwn. Yn wir, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi newid o fod yn rhwydwaith i fenywod, i rwydwaith sy'n gweithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau a'r cynnydd sylweddol yn ein haelodaeth o ganlyniad i hynny. Oherwydd os ydym ni fel rhwydwaith yn fwy cynhwysol, rydym mewn sefyllfa well i sicrhau nad yw penderfyniadau ac arferion yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un yn anfwriadol.”
Fel rhan o'r Rhwydwaith hwn, mae gennym GENMEN, sef is-grŵp sy'n ceisio hyrwyddo popeth sy'n ymwneud ag iechyd dynion, gan ddefnyddio gweithgarwch corfforol ar yr un pryd i helpu i wella iechyd meddyliol a chorfforol pawb yn yr Heddlu.
Meddai'r Cyd-Gadeirydd, y Prif Arolygydd Jay Davies: “Ein mantra yw 'mae camau bach yn arwain at newidiadau mawr'. Mae un dyn yn lladd ei hun bob munud o bob dydd ledled y byd, felly rydym wir yn gobeithio y gall GENMEN greu lle mwy diogel a chefnogol i ddynion dorri stigma'r 'dyn alffa' drwy annog dynion i fod yn onest a siarad am eu teimladau a'u gwneud yn fwy gwydn.”
Mae'r Rhwydwaith hwn, sy'n cynrychioli De Cymru yn Rhwydwaith Heddlu LHDT+ ehangach Cymru, yn rhoi cyngor a chymorth, yn ogystal â gweithio i sicrhau bod polisïau, arferion a chyfleusterau yn gefnogol i'r rhai sy'n rhan o'r gymuned LHDTC+ ac nad ydynt yn gwahaniaethu yn eu herbyn.
Mae ein rhwydwaith staff mwyaf newydd, a gafodd ei sefydlu yn 2021, y Rhwydwaith Niwroamrywiaeth ei sefydlu er mwyn rhoi cymorth i gydweithwyr niwroamrywiol a chydweithwyr a all fod yn gofalu am bobl â chyflyrau niwroamrywiol. Er mai dim ond blwydd oed yw'r Rhwydwaith, mae eisoes yn cefnogi gwaith i godi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth yn Heddlu De Cymru ac mae'n falch o fod wedi cyfrannu at waith dysgu drwy'r heddlu i gyd gan gynnwys gweminarau, sesiynau codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant mewnol.
Caiff nodau gwaith y Rhwydwaith eu pennu gan yr aelodau ac maen nhw wedi nodi mai llesiant ac iechyd meddwl, cysylltiadau, recriwtio a chynnydd, a chodi ymwybyddiaeth yw'r meysydd y bydd y Rhwydwaith yn rhoi blaenoriaeth iddynt.
Meddai ysgrifennydd y Rhwydwaith Poppy Hayhurst: “Mae cynrychiolaeth yn allweddol i'r Rhwydwaith, ac rydym yn falch bod gennym aelodau â phrofiad personol a phroffesiynol o amrywiaeth o gyflyrau niwroamrywiol gan gynnwys awtistiaeth, ADHD, dyslecsia a dyscalcwlia.”
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanylach am bob rhwydwaith a'r modd rydym yn gweithio tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yma: Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: Recriwtio | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)