Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol ar hyd arfordir Caerdydd a'r Fro wedi mwy na haneru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae'r gostyngiad i'w weld er gwaetha'r ffaith fod nifer yr ymwelwyr â'n harfordir wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig yn ystod yr haf eleni.
Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, gwnaeth nifer y digwyddiadau y rhoddwyd gwybod amdanynt ostwng 43% o 2020 i 2021 a 12% pellach yn 2022.
Mae hyn yn deillio o waith Ymgyrch Elstree, sef ymgyrch amlasiantaethol sydd â'r nod o gadw ardaloedd arfordirol yn ddiogel a sicrhau eu bod yn ystyriol o deuluoedd.
Ar y cyd â'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), Tân ac Achub De Cymru, awdurdodau lleol a busnesau, dyma rai o'r ffyrdd y mae #YmgyrchElstree wedi eich cadw'n ddiogel:
Dywedodd Stuart McDean, Arolygydd Cymdogaeth Bae Caerdydd a Phenarth:
“Mae Ymgyrch Elstree wedi golygu 1,000 o oriau ychwanegol o batrolau ar droed gan yr heddlu ar hyd arfordir Caerdydd a Bro Morgannwg, llawer ohonynt gan wirfoddolwyr o'r Gwnstabliaeth Wirfoddol.
“Yn ystod y patrolau hyn rydym wedi arestio 23 o bobl ac wedi atafaelu alcohol sydd wedi helpu i atal yr ymddygiad gwrthgymdeithasol a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf.
“Un o uchafbwyntiau eraill Ymgyrch Elstree yw ein bod wedi aduno plant coll â'u rhieni ar y traeth. Gall colli golwg ar eich plant am ychydig eiliadau beri pryder mawr, felly rwy'n falch bod ein swyddogion wedi bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn yr haf hwn.
“Mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn ac rydym yn gobeithio bod pawb a ymwelodd ag arfordir Caerdydd a Bro Morgannwg yr haf hwn wedi cael profiad cadarnhaol.”