Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:05 30/09/2022
Cyflwynwyd y gorchmynion am iddynt gyflawni troseddau trefn gyhoeddus hiliol yn ystod gêm Cymru yn erbyn Awstria yn gynharach eleni.
Plediodd David Oakley, o Ben-y-bont ar Ogwr, yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd ar 23 Medi i gyhuddiad o gyflawni trosedd trefn gyhoeddus hiliol yn ystod gêm Cymru yn erbyn Awstria yn ystod mis Mawrth 2022.
Rhoddodd aelodau o blith cefnogwyr eraill Cymru wybod i'r heddlu bod Oakley wedi gwneud saliwtiau Natsïaidd tuag at gefnogwyr Awstria.
Plediodd y dyn 59 oed yn euog a derbyniodd orchymyn yn ei wahardd rhag mynd i gemau pêl-droed am dair blynedd. Gorchmynnwyd iddo dalu dirwy a chostau a ddaeth i gyfanswm o £1,460 hefyd.
Cafwyd Meryn Hinton, o Benarth, yn euog o'r un drosedd ar 20 Medi.
Gwelodd stiwardiaid yn y stadiwm Hinton yn gwneud saliwtiau Natsïaidd tuag at gefnogwyr Awstria, ac roedd i'w weld ar y system teledu cylch cyfyng hefyd.
Cafwyd y dyn 57 oed yn euog yn dilyn treial a derbyniodd orchymyn yn ei wahardd rhag mynd i gemau pêl-droed am dair blynedd. Gorchmynnwyd iddo dalu dirwy a chostau a ddaeth i gyfanswm o £731 hefyd.
Ni chaiff Oakley na Hinton fynd i unrhyw safle yn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu unrhyw gemau pêl-droed a gaiff eu rheoleiddio at ddiben Deddf Cefnogwyr Pêl-droed 1989.
Pan fydd gemau pêl-droed yn cael eu chwarae y tu allan i'r Deyrnas Unedig, rhaid iddynt fynd i orsaf heddlu benodedig ac ildio eu pasbortau.
Dywedodd PC Christian Evans o Heddlu De Cymru: “Mae'r mwyafrif helaeth o'r bobl sy'n mynychu Stadiwm Dinas Caerdydd yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn mwynhau profiad diogel.
“Mae cefnogwyr pêl droed Cymru wedi llwyddo i gael enw ardderchog iddynt eu hunain gartref a phan fyddant yn ymweld â gwledydd eraill.
“Fodd bynnag, pa bryd bynnag y ceir tystiolaeth o anrhefn sy'n gysylltiedig â phêl-droed, rydym bob amser yn ceisio erlyn y rheini sy'n gyfrifol er mwyn cymryd y camau priodol.
“Rwy'n gobeithio y bydd y canlyniadau llys hyn yn cyfleu neges glir na chaiff ymddygiad tebyg ei oddef yn Stadiwm Dinas Caerdydd.”