Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd swyddogion o'r Uned Plismona Ffyrdd a'r tîm oddi ar y ffordd gwrthgymdeithasol (ASORT) a Chyngor Caerdydd â thîm Cymdogaeth Trelái dros y penwythnos er mwyn mynd i'r afael â beiciau oddi ar y ffordd yn gyrru mewn ffordd wrthgymdeithasol yng Nghaerdydd.
Rhoddwyd gwybod am y gyrrwyr yn ardaloedd Trelái a Thredelerch ac o ganlyniad, atafaelwyd pedwar cerbyd oddi ar y ffordd.
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Lleol, Ben Davies:
“Rydym yn gwybod bod beiciau oddi ar y ffordd yn peri gofid i'n cymunedau ac mae Ymgyrch Red Mana yn ymgyrch blismona sy'n ymroddedig i fynd i'r afael â'r mater.
“Nid yn unig mae'r math hwn o ddefnydd o feiciau oddi ar y ffordd yn torri rheoliadau traffig ffyrdd, ond mae hefyd yn beryglus iawn.
“Rydym yn pryderu y gallai rhywun gael ei anafu gan y beiciau hyn, sy'n cael eu goryrru a hefyd y sŵn, sy'n amharu ar ansawdd bywyd trigolion.”
Caiff Ymgyrch Red Mana ei chefnogi gan yr Auto-Cycle Union Ltd (ACU), y Corff Llywodraethu Cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer Chwaraeon Beiciau Modur ym Mhrydain (ddim yng Ngogledd Iwerddon) a'r Gymdeithas Beicio Modur Amatur (AMCA).
Byddem yn annog y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw wybodaeth gyffredinol sy'n ymwneud â'r defnydd anghyfreithlon o feiciau oddi ar y ffordd drwy e-bostio [email protected]