Stamp amser presennol: 28/03/23 22:53:33
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police_ website_ left-hand Corner_ flat White Crest

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Prif Weinidog Cymru'n agor Canolfan Ddysgu newydd yr Heddlu, Tŷ Morgannwg, yn swyddogol.

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Y diweddaraf

16:31 30/09/2022

1D4A1871.jpg

Agorodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, gyfleuster dysgu newydd o'r radd flaenaf ym mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr heddiw (dydd Gwener 30 Medi).

Mae agor Tŷ Morgannwg, Canolfan Ddysgu newydd yr Heddlu, yn dangos buddsoddiad mawr a fydd yn galluogi swyddogion a staff newydd a phresennol yr heddlu yn Ne Cymru i gael hyfforddiant effeithiol.

Yn dilyn adolygiad strategol o'i ystad a gan ystyried y rhaglen recriwtio genedlaethol i gynyddu nifer y swyddogion, mae Heddlu De Cymru wedi creu cyfleuster hyfforddiant modern, effeithlon ac addas at y diben yn lle'r hen gyfleusterau a oedd mewn lleoliadau gwahanol ledled ardal yr heddlu. Bydd y gwaith rhesymoli a moderneiddio hwn yn arbed arian dros y tymor hwy.

Bydd y cyfleuster pwrpasol hwn yn gartref i'r holl ofynion addysgu, a hynny mewn un adeilad, ar un safle. Mae'r adeilad pedwar llawr yn lleoliad parhaol ar gyfer Gwasanaethau Dysgu a Datblygu ac Adnoddau Dynol.

Y tu mewn i'r cyfleuster hyfforddiant mae dwy ystafell hyfforddi fawr ar gyfer profion ffitrwydd, hyfforddiant ar ddefnyddio gynnau taser a hyfforddiant diogelwch swyddogion, ynghyd ag ystafelloedd dosbarth a darlithfa.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:

“Mae datblygiad Canolfan Ddysgu'r Heddlu ym Mhencadlys yr Heddlu yn fuddsoddiad mawr yn hyfforddiant swyddogion a staff newydd a phresennol yr heddlu, heddiw ac i'r dyfodol.

“Mae recriwtio niferoedd ychwanegol o swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ogystal â recriwtio yn lle'r rhai sy'n ymddeol cyn hir yn golygu bod yn rhaid i Heddlu De Cymru recriwtio a hyfforddi tua 1,000 o swyddogion newydd dros y tair blynedd nesaf. Mae'n dasg anferthol ac mae'n hollbwysig bod gennym y cyfleusterau iawn i gyflawni hyn.

“Mae hyfforddiant wedi'i foderneiddio'n llwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf felly bydd y cyfleusterau newydd hyn yn ein galluogi i ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel y byddai'r cyhoedd yn disgwyl i ni ei ddarparu ar gyfer swyddogion yr heddlu yn y dyfodol.”

Tan nawr, mae ein cyfleusterau hyfforddiant wedi'u lleoli ledled ardal yr heddlu ac, o ganlyniad i ddiffyg buddsoddi, mae rhai adeiladau mewn cyflwr gwael iawn gan gynnwys y defnydd o gabanau symudol.

Mae'r datblygiad newydd gwerth £28m yn rhan o strategaeth 10 mlynedd i ddisodli nifer o hen adeiladau sy'n ddrud i'w hatgyweirio a'u cynnal a chadw.  Ariennir rhan o'r cynllun hwn drwy werthu nifer o safleoedd a fydd yn rhoi derbyniadau cyfalaf o £24m, arbediad o £19m ar gostau a fyddai wedi bod yn angenrheidiol i redeg hen adeiladau a gostyngiad o £2m mewn costau rhedeg blynyddol.

Mae rhaglen Recriwtio'r Llywodraeth i benodi 20,000 o swyddogion yr heddlu yn ogystal â chymryd lle'r rhai sy'n ymddeol cyn hir yn golygu bod yn rhaid i Heddlu De Cymru recriwtio a hyfforddi tua 1,000 o swyddogion newydd dros gyfnod o dair blynedd. Bydd rhan o'r hyfforddiant yn digwydd yn yr ystafell ddosbarth sy'n gofyn am nifer o ystafelloedd ymneilltuo a chyfleusterau cyfarfod.

Dywedodd y Prif Swyddog Ariannol, Umar Hussain:

“Mae gan Heddlu De Cymru hanes profedig o reoli adnoddau'n gadarn ac ailddatblygu ei ystad a hefyd gynnal gwasanaeth brys 24/7 effeithiol ar yr un pryd. Mae ein cyfleusterau hyfforddi newydd yn rhywbeth y gallwn ymfalchïo ynddo ac yn rhywbeth y mae ein swyddogion newydd a phresennol yn ei haeddu. Rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid dros nifer o flynyddoedd i ddarparu gwasanaethau gwell sy'n cynnig gwerth gwell am arian i'r cyhoedd drwy beidio â gwario arian ar atgyweirio hen adeiladau a thrwy hynny greu arbedion sylweddol ar gostau rhedeg.

“Mae hyn yn cynnwys darparu cyfleusterau gwell i'n swyddogion rheng flaen a'n staff gyda gorsafoedd a dalfeydd newydd ym Mae Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful, gorsaf newydd yn Nhonysguboriau, canolfan gwasanaethau cyhoeddus newydd ar y cyd i'r heddlu a'r gwasanaeth tân ym Mhen-y-bont ar Ogwr, canolfan cynnal a chadw cerbydau newydd ar y cyd â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr a chyfleusterau cymunedol a rennir megis Hwb Llanedeyrn ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Gorsaf Gwasanaethau Brys newydd ar gyfer pedwar partner yn Llanilltud Fawr.”

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae'n bleser gennyf ddadorchuddio'r plac coffa ar gyfer y ganolfan ddysgu newydd ym mhencadlys Heddlu De Cymru. Bydd y buddsoddiad mawr hwn yn talu ar ei ganfed er mwyn hyfforddi swyddogion a staff newydd a phresennol yr heddlu yn Ne Cymru.

“Mae hyfforddiant a datblygiad proffesiynol yn helpu i greu swyddogion yr heddlu effeithiol ac yn helpu i gadw ein cymunedau yn ddiogel.”

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.