Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dros y 12 mis diwethaf, mae Heddlu De Cymru wedi cyflwyno cyfres o fesurau newydd fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
Drwy weithio gydag ystod o sefydliadau partner, rydym wedi parhau i dargedu adnoddau er mwyn sicrhau llwybrau clir i ddiogelwch ar gyfer dioddefwyr, cefnogi a grymuso goroeswyr a buddsoddi mewn ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol, gan ymdrin â'r agweddau a'r ymddygiadau niweidiol sy'n arwain at drais a chamdriniaeth.
Mae Heddlu De Cymru wedi dod yn heddlu peilot ar gyfer Ymgyrch Soteria sy'n gobeithio trawsnewid y ffordd yr ymchwilir i achosion o dreisio a throseddau rhywiol difrifol. Mae'r peilot eisoes wedi ymroi i sicrhau na fydd unrhyw un sydd wedi cael ei dreisio heb ffôn symudol am fwy na 24 awr – mae hyn yn cael ei gyflawni drwy fuddsoddi mewn technoleg newydd sy'n cyflymu archwiliadau o ffonau symudol, sydd yn aml yn hollbwysig er mwyn cael tystiolaeth ar gyfer erlyniadau llwyddiannus.
Mae nifer o ymgyrchoedd a mesurau ymarferol hefyd wedi'u cyflwyno er mwyn atal achosion rhag digwydd ac i wneud i bobl deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau. Mae'r rhain yn cynnwys:
Fel rhan o strategaeth Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, mae Heddlu De Cymru hefyd wedi hyrwyddo adnodd ar-lein newydd o'r enw StreetSafe sy'n galluogi pobl i nodi lleoliadau lle maent wedi teimlo'n anniogel a nodi pam eu bod wedi teimlo'n anniogel yn y lleoliad hwnnw. Gan ddefnyddio'r wybodaeth honno, gallwn gyfarwyddo ein patrolau a mynd ati gyda'n partneriaid i wella seilwaith megis goleuadau a systemau teledu cylch cyfyng.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mark Lewis, sef arweinydd yr heddlu ar drais yn erbyn menywod a merched:
“Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel yn eu cartref a'u cymuned ond mae'r un mor bwysig i bobl deimlo'n ddiogel wrth fynd o gwmpas eu pethau yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd.
“Dyma pam, ochr yn ochr â'r gefnogaeth sydd gennym ar waith i ddioddefwyr troseddau ac ymrwymiad i ymchwilio i bob math o drais a chamdriniaeth, y mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal digwyddiadau rhag digwydd ar ein strydoedd a bod gennym fesurau ar waith drwy weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i wneud i bobl deimlo'n ddiogel.
“Gwyddom fod pryder cyffredinol am ddiogelwch y cyhoedd, yn enwedig ymhlith menywod a merched, ac rydym wedi gwneud cryn ymdrech i ddeall eu pryderon drwy arolygon ac adnoddau adrodd ar-lein gwahanol i wrando ac ymateb drwy dargedu ein patrolau a gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â nhw.
“Gwnaed cryn ymdrech ac ymrwymiad i fynd i'r afael â'r materion pwysig hyn ac er i ni gyflawni llawer dros y 12 mis diwethaf, mae mwy i'w wneud o hyd ac mae angen ymrwymo i wneud ein cymunedau mor ddiogel â phosibl.”
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools:
"Rwy'n falch iawn o weld y mentrau gwahanol sy'n cael eu cynnal ledled De Cymru, y mae llawer ohonynt wedi'u hariannu diolch i'n ceisiadau llwyddiannus i Gronfa Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref.
“Mae'r grantiau hyn yn cymeradwyo ein dull o weithio mewn partneriaeth. Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r cynghorau a phartneriaid eraill i nodi'n fanwl y ffactorau sy'n ysgogi problemau lleol a'r ffordd orau o fynd i'r afael â nhw gyda'n gilydd.
“Mae hyn yn cael ei fuddsoddi mewn gwneud y strydoedd yn fwy diogel i fenywod a merched. Mae atal trais yn erbyn menywod a merched wedi bod yn flaenoriaeth benodol i'r Comisiynydd a'i dîm erioed ac er ein bod wedi gwneud cryn dipyn i fynd i'r afael â'r broblem yn Ne Cymru, erys yn un o'r problemau mwyaf a wynebwn ac mae'n rhaid i ni ymdrechu i wneud mwy bob amser er mwyn ceisio gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o fygylu ac aflonyddu a brofir gan fenywod a merched yn ein cymunedau.
“Ochr yn ochr ag ymateb gweithredol swyddogion yr heddlu, gan weithio mewn partneriaeth, byddwn yn canolbwyntio ar fanteision uniongyrchol mesurau ymarferol fel systemau teledu cylch cyfyng a gwelliannau ffisegol i'r amgylchedd, a hefyd ar sicrhau gwelliannau hirdymor cynaliadwy i greu cymunedau diogel, hyderus a chydnerth.”