Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:43 20/09/2022
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffordd a ddigwyddodd ar Stryd Fawr, Dowlais, tua 5.50pm ddoe (dydd Llun 19 Medi).
Bu MG ZS llwyd mewn gwrthdrawiad â cherddwr ac, er gwaethaf ymdrechion gorau aelodau o'r cyhoedd a gwasanaethau brys, cafodd menyw 52 oed o Bentrebach ei datgan yn farw yn y fan a'r lle.
Mae dyn 29 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth drwy yrru'n beryglus ac mae yn y ddalfa o hyd.
Dywedodd PC Emma Thomas:
“Hoffem ddiolch i'r aelodau hynny o'r cyhoedd a wnaeth ein cynorthwyo yn lleoliad y gwrthdrawiad, a hoffem glywed gan unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu y gall fod ganddo ddeunydd fideo camera dashfwrdd o'r digwyddiad neu a welodd y modd yr oedd yr MG yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.”
Ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/ gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2200318517.