Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd gwraig fregus, 101 mlwydd oed, a gafodd ei thwyllo gan ofalwraig yr oedd hi'n ymddiried ynddi, yn cael £329,000 yn ôl o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.
O ganlyniad i ymdrechion glew'r Swyddog Cyfrifol, yr ymchwilydd ariannol DC Claire Bennett, bydd y ddioddefwraig o Gaerdydd hefyd yn cael £116,000 yn ychwanegol i dalu am gostau a gododd yn sgil gweithredoedd creulon a dideimlad y diffynnydd Rhian Horsey.
Cafodd Horsey, o Bont-y-clun, ei dyfarnu'n euog am y twyll - a aeth ymlaen am gyfnod o saith mlynedd - y llynedd, yn dilyn ymchwiliad cymhleth a hir gan DC Bennett a DC Mike James o Uned Diogelu'r Cyhoedd. Cafodd ei charcharu am bum blynedd.
Yn ystod y gwrandawiad o dan y Ddeddf Enillion Troseddau yr wythnos diwethaf, gorchmynnwyd i Horsey werthu ei thŷ, sy'n werth £482,000, er mwyn ad-dalu'r ddioddefwraig neu wynebu tair blynedd ychwanegol yn y carchar.
Yn dilyn y gwrandawiad, dywedodd DC Bennett:
“Roedd y ddioddefwraig yn yr achos hwn yn ymddiried yn llwyr yn Horsey, gan ei chroesawu i'w thŷ a, dros amser, ymddiried ynddi i'w chynorthwyo gyda'i harian. Bradychodd Horsey yr ymddiriedaeth hon yn y ffordd fwyaf creulon, gan ddwyn symiau mawr o arian oddi wrth berson yr oedd yn ymhonni ei bod yn gofalu amdani a phortreadu ei hun fel rhywun gofalgar a pharchus.
“Roeddem wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau cyfiawnder i'r ddioddefwraig yn ystod y treial y llynedd ac yn gobeithio bod y ddedfryd a gafodd Horsey wedi anfon neges gref i eraill sy'n credu ei bod yn iawn manteisio ar bobl fregus yn y fath fodd.
“Ond nid dyna ddiwedd ar y mater i ni; wynebodd y ddioddefwraig yn yr achos hwn ddistryw ariannol yn sgil y twyll ac roedd yn hollbwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adennill cymaint o'r arian a gafodd ei golli.
“Roedd cael y swm cyfan o arian yn ôl, yn ogystal ag iawndal ychwanegol i dalu am gostau a gododd yn sgil y twyll, yn deimlad braf ofnadwy.
“Ni fydd fyth yn ddigon i adfer hyder ac ymddiriedaeth y ddioddefwraig, ond rydym yn gobeithio y bydd yr arian o ryw gymorth iddi ailadeiladu ei bywyd.”
Cael cymorth neu roi gwybod am sgam
Os ydych yn credu eich bod wedi darganfod sgam neu wedi cael eich targedu gan sgam neu dwyllwyr, cysylltwch ag Action Fraud ar 0300 123 2040 neu drwy wefan Action Fraud.
Rhowch wybod am sgam yma neu cysylltwch â ni drwy ffonio 101 os ydych chi'n adnabod yr unigolyn dan amheuaeth neu ei fod/ei bod yn parhau i fod yn yr ardal.