Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Aeth menywod o gymunedau lleol a swyddogion o Heddlu De Cymru (HDC) benben â'i gilydd i ennill teitl 'y seren bobi' a gafodd ei threfnu i hyrwyddo cysylltiadau da a chydlyniant cymunedol.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth bobi flynyddol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn gynharach heddiw (Dydd Mercher, 21 Medi). Aeth saith pobydd o gymunedau Caerdydd a phedwar swyddog benben â'i gilydd mewn cystadleuaeth a gafodd ei threfnu gan y Ditectif Ringyll Karen Merrett (HDC), Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Women Connect First (WCF).
Dewisodd pawb oedd yn cymryd rhan rysáit o'u dewis cyn cael dwy awr i baratoi a phobi, eu gadael i oeri a'u haddurno yn barod i'r beirniaid eu blasu. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Tommy Heaney, Cogydd a pherchennog bwyty Heaney's, a chynrychiolwyr o'r tri sefydliad.
Cafodd pawb flasu'r camweithiau!
Trefnwyd y digwyddiad er mwyn atgyfnerthu'r berthynas rhwng yr heddlu a menywod o fewn y cymunedau sy'n cael eu cynrychioli gan WCF.
Dywedodd DS Karen Merrett:
“Mae mynd i'r afael â thrais a cham-drin yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth hir sefydlog gennym ac rwy’n deall bod diogelwch personol yn bryder i lawer o fenywod.
“Mae'r digwyddiad hwn yn creu cyfle i ymgysylltu â menywod nad ydynt, o bosibl, wedi gwneud hynny gyda ni o'r blaen. Mae'n gyfle i gynyddu eu hymddiriedaeth a'u hyder mewn plismona er mwyn iddynt deimlo'n gyfforddus i ddod atom pan fo angen.
“Llongyfarchiadau i'r enillydd, Duos Suliman, a blesiodd y beirniaid gyda'i warbat qishta!”