Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:27 26/09/2022
Roedd pedwar o'r saith arest, a oedd i gyd ar y pen oddi cartref, am gael dyfais byrodechnegol yn eu meddiant ac mae'r unigolion hyn yn dal yn nalfa'r heddlu.
Arestiwyd tri dyn arall am fod yn feddw ac afreolus, am drosedd trefn gyhoeddus hiliol a rhedeg ar y cae.
Yn ystod y digwyddiad, cafodd sawl cefnogwr oddi cartref eu taflu allan o'r stadiwm am dorri rheoliadau'r stadiwm fel ysmygu ac yfed alcohol.
Dywedodd PC Christian Evans o Heddlu De Cymru: “Fe wnaeth y mwyafrif helaeth o'r bobl a fynychodd Stadiwm Dinas Caerdydd ymddwyn yn gyfrifol a mwynhau profiad diogel.
“Mae cefnogwyr pêl droed Cymru wedi ennill enw ardderchog iddynt eu hunain gartref a phan fyddant yn ymweld â gwledydd eraill.
“Mae'n drosedd cario dyfais byrodechnegol mewn gêm bêl-droed, neu geisio dod ag un i mewn i stadiwm bêl-droed, a bydd unrhyw un sy'n ei gael yn euog o gyflawni trosedd o'r fath yn cael Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed”.