Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:10 02/09/2022
Rydym yn parhau i apelio am i dystion gysylltu â ni yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd difrifol ar Heol Penarth i gyfeiriad Cogan Spur #Penarth a ddigwyddodd am 2.25am ddydd Gwener, Awst 5, 2022.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic a'r hyn y cyredir iddo fod yn Ford Fiesta lliw tywyll.
Credir bod y car dan sylw yn cael ei yrru gan ferch a adawodd y digwyddiad gan adael beiciwr, a oedd yn ddyn 60 oed, ar ochr y ffordd gydag anafiadau difrifol, y mae'n dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ar eu cyfer.
Amheuir bod gan y cerbyd a oedd yn y digwyddiad ddifrod ar ochr teithiwr y car a difrod ar ddrych ystlys ochr teithiwr y car.
Rydym eisiau siarad â'r ferch a oedd yn gyrru'r Fiesta lliw tywyll.
Rydym hefyd yn apelio ar i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu sydd wedi dod yn ymwybodol o ddifrod fel y disgrifir uchod ar y dyddiad uchod i ddarparu'r wybodaeth honno.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad *262136.
Ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/?utm_source=Twitter&utm_medium=social&utm_campaign=Orlo neu gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111