Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:49 18/09/2022
Diweddariad am ddigwyddiad Aberafan: Dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o ymgais i lofruddio
Mae Ditectifs o Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 50 oed ar amheuaeth o ymgais i lofruddio yn dilyn digwyddiad mewn cyfeiriad ar Heol Victoria, Aberafan tua 6.45pm nos Sadwrn, 17 Medi, 2022.
Cafodd dyn 32 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn dilyn y digwyddiad, lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol wael.
Daeth swyddogion o hyd i fwa croes yn lleoliad y digwyddiad. Mae ymchwiliad i'r amgylchiadau yn mynd rhagddo.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes:
“Ry'n ni'n deall bod pryder o fewn y gymdeithas - hoffwn roi sicrwydd i bobl bod un person yn y ddalfa ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall.
“Credir bod y ddau ddyn a oedd yn ymwneud â'r digwyddiad yn adnabod ei gilydd ac mae ymchwiliad i'r amgylchiadau yn cael ei gynnal.”
Mae tâp ynysu'r heddlu yn parhau o amgylch lleoliad y digwyddiad, sef bloc o fflatiau ar Heol Victoria.
Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r heddlu ar-lein neu drwy ffonio 101.
Dyfynnwch y cyfeirnod 2200316538.