Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae agor Canolfan Ddysgu newydd i'r Heddlu ar safle'r Pencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn fuddsoddiad mawr a fydd yn ei gwneud yn bosibl i swyddogion a staff newydd yr heddlu a swyddogion a staff presennol yn Ne Cymru gael hyfforddiant effeithiol.
Ar ôl adolygiad strategol o'i ystad a chan ystyried y rhaglen recriwtio genedlaethol i gynyddu nifer y swyddogion, mae Heddlu De Cymru wedi creu cyfleuster hyfforddiant modern, effeithlon ac addas at y diben yn lle'r hen gyfleusterau a oedd mewn lleoliadau gwahanol ledled ardal yr heddlu. Bydd y rhaglen ad-drefnu a moderneiddio hon yn arbed arian yn y tymor hwy.
Bydd y cyfleuster pwrpasol hwn yn gartref i'r holl ofynion addysgu, a hynny mewn un adeilad, ar un safle. Mae'r adeilad pedwar llawr yn ganolfan sefydlog ar gyfer Gwasanaethau Dysgu a Datblygu ac Adnoddau Dynol.
Y tu mewn i'r cyfleuster hyfforddiant mae dwy ystafell hyfforddi fawr ar gyfer profion ffitrwydd, hyfforddiant ar ddefnyddio gynnau taser a hyfforddiant diogelwch swyddogion, ynghyd ag ystafelloedd dosbarth a darlithfa.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:
“Mae datblygiad Canolfan Ddysgu'r Heddlu ym Mhencadlys yr Heddlu yn fuddsoddiad mawr yn y gwaith o hyfforddi swyddogion a staff newydd a phresennol yr heddlu, ar gyfer heddiw a'r dyfodol.
“Mae recriwtio niferoedd ychwanegol o swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn ogystal â recriwtio yn lle'r rhai sy'n ymddeol cyn hir yn golygu bod yn rhaid i Heddlu De Cymru recriwtio a hyfforddi tua 1,000 o swyddogion newydd dros y tair blynedd nesaf. Mae hynny'n dasg enfawr ac mae'n hollbwysig bod gennym y cyfleusterau priodol i ni allu gwneud hynny.
“Mae hyfforddiant wedi cael ei foderneiddio'n gyfan gwbl yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac felly bydd y cyfleusterau newydd hyn yn ein galluogi i gyflwyno'r hyfforddiant o safon uchel y byddai'r cyhoedd yn disgwyl i ni ei roi i swyddogion heddlu y dyfodol.”
Hyd yma, mae ein cyfleusterau hyfforddi wedi bod mewn sawl lleoliad ledled ardal yr heddlu ac o ganlyniad i danfuddsoddi mae rhai adeiladau mewn cyflwr gwael iawn ac mae hyn cynnwys y defnydd o gabanau symudol.
Mae'r datblygiad hwn gwerth £28m yn rhan o strategaeth 10 mlynedd i ddisodli nifer o hen adeiladau sy'n gostus i'w hatgyweirio a'u cynnal a'u cadw. Ariennir rhan o'r cynllun hwn drwy werthu nifer o safleoedd a fydd yn rhoi derbyniadau cyfalaf o £24m, arbediad o £19m ar gostau a fyddai wedi bod yn angenrheidiol i redeg hen adeiladau a gostyngiad o £2m mewn costau rhedeg blynyddol.
Mae rhaglen y Llywodraeth i recriwtio 20,000 o swyddogion yr heddlu yn ogystal â recriwtio yn lle'r rhai sy'n ymddeol cyn hir yn golygu bod yn rhaid i Heddlu De Cymru recriwtio a hyfforddi tua 1,000 o swyddogion newydd dros y tair blynedd nesaf. Bydd rhan o'r hyfforddiant yn digwydd yn yr ystafell ddosbarth sy'n gofyn am nifer o ystafelloedd ymneilltuo a chyfleusterau cyfarfod a chaiff y podiau cyfarfod allanol eu defnyddio at y diben hwn.
Dywedodd y Prif Swyddog Ariannol Umar Hussain:
“Mae gan Heddlu De Cymru hanes profedig o reoli adnoddau'n gadarn ac ailddatblygu ei ystad a hefyd gynnal gwasanaeth brys 24/7 effeithiol ar yr un pryd. Mae ein cyfleusterau hyfforddi newydd yn rhywbeth y gallwn ymfalchïo ynddo ac yn rhywbeth y mae ein swyddogion newydd a phresennol yn ei haeddu. Dros flynyddoedd lawer rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid i ddarparu gwell gwasanaethau a rhoi mwy o werth am arian i'r cyhoedd drwy beidio â gwario arian ar atgyweirio hen adeiladu a thrwy hynny wneud arbedion sylweddol ar gostau rhedeg.
“Mae hyn yn cynnwys darparu cyfleusterau gwell i'n swyddogion rheng flaen a'n staff gyda gorsafoedd a dalfeydd newydd ym Mae Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful, gorsaf newydd yn Nhonysguboriau, canolfan gwasanaethau cyhoeddus newydd ar y cyd i'r heddlu a'r gwasanaeth tân ym Mhen-y-bont ar Ogwr, canolfan cynnal a chadw cerbydau newydd ar y cyd â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr a chyfleusterau cymunedol a rennir megis Hwb Llanedern ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Gorsaf Gwasanaethau Brys newydd ar gyfer pedwar partner yn Llanilltud Fawr.”