Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:57 09/09/2022
Mae Brian Whitelock, 55 oed o Glydach, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Wendy Buckney mewn adeilad ar Ffordd Tanycoed, Clydach, ddydd Mawrth 23 Awst.
Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies:
“Rwyf yn parhau i feddwl am deulu a ffrindiau Wendy sydd, yn ddealladwy, wedi'u llorio gan yr hyn sydd wedi digwydd, ac ar ran pawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad, anfonaf gydymdeimladau atynt.
“Rydym yn ymwybodol o'r effaith y mae marwolaeth Wendy wedi ei chael ar y gymuned ac er bod unigolyn wedi cael ei gyhuddo, mae ein hymholiadau'n parhau, felly rydym wrthi'n apelio ar unrhyw sydd â gwybodaeth a allai ein helpu i gysylltu â https://bit.ly/SWPProvideInfo gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2200285700."