Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 67 oed o Wlad yr Haf wedi'i ddedfrydu i 12 mlynedd o garchar am dreisio dieithryn 42 mlynedd yn ôl.
Yn y fideo uchod, mae'r dioddefwr, sydd am aros yn ddienw, yn disgrifio ei phrofiad.
Yn dilyn ymchwiliad gan Uned Adolygu Heddlu De Cymru, arestiwyd Roland Long ar 15 Medi 2020 yng nghyfeiriad ei gartref yng Ngwlad yr Haf.
Cafodd ei arestio yn dilyn gwaith fforensig manwl i ddigwyddiad ar Elm Street yng Nghaerdydd ar 17 Awst 1980.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Patrick Catto, cyn-Bennaeth yr Uned Adolygu Troseddau Mawr:
"Yn 1980, daeth menyw a oedd newydd symud i ardal Caerdydd oddi ar fws a phan oedd ar ei ffordd adref, dilynodd Roland Long hi a'i threisio'n ffyrnig.
“Cynhaliwyd ymchwiliad eang ar y pryd, ond ni chafodd yr unigolyn dan amheuaeth ei adnabod. Ond nid yw Heddlu De Cymru byth yn rhoi'r gorau i ymchwiliadau i droseddau difrifol, a chadwyd y dystiolaeth.
"Diolch i dechnoleg DNA ddatblygedig, cafodd Roland Long ei adnabod fel y person a oedd yn gyfrifol ac mae bellach wedi'i ddwyn gerbron y llys."
Cynhaliodd gwyddonwyr o'r Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd (JSIU) adolygiad o bapurau'r achos gwreiddiol a rhoi cyngor arbenigol i'r Uned Adolygu, yn cynnwys sut y gallai datblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg fod o gymorth yn yr ymchwiliad. Ailaseswyd eitemau o ddillad, a ddatgelodd fod manylion Roland Long yn cyfateb, gyda siawns o bron i 1 biliwn i un bod y DNA yn perthyn i rywun arall.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mathew Lewis, pennaeth JSIU:
"Mae JSIU yn gweithio'n agos gyda'n timau ymchwilio, gyda thîm o aelodau o staff medrus ac ymroddedig iawn sy'n ceisio sicrhau cyfiawnder drwy wyddoniaeth. Dyna yn union a ddigwyddodd yn yr achos hwn.
"Drwy ddefnyddio datblygiadau fforensig, buom yn gweithio gyda'r Uned Adolygu i ddwyn troseddwr gerbron y llys 42 mlynedd ar ôl iddo gyflawni'r drosedd."
Ychwanegodd DI Patrick Catto:
"Gobeithio y bydd y ddedfryd a roddwyd gan y barnwr heddiw rywfaint o gymorth i ddioddefwr y digwyddiad ofnadwy hwn, sy'n rhywbeth y mae wedi gorfod byw gydag ef bob dydd ers 42 mlynedd.
"Mae'r ffaith bod y troseddwr wedi byw ei fywyd dros y cyfnod hwn heb unrhyw ystyriaeth na phoen meddwl tuag at ei ddioddefwr yn amhosibl i'w gyfiawnhau.
"Ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, gall y dioddefwr ddechrau ailadeiladu ei bywyd gan wybod bod Roland Long wedi cael ei ddal a'i garcharu.
"Mae'r swyddogion a fu'n rhan o'r achos hwn wedi dangos proffesiynoldeb, penderfyniad a dycnwch i ddwyn y sawl sy'n achosi'r niwed mwyaf yn ein cymunedau gerbron y llys, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio."
“Mae cymorth ar gael i bob dioddefwr trais rhywiol, a byddem yn annog pob dioddefwr, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.”
Ers 2019, mae Uned Adolygu Fforensig Heddlu De Cymru – a elwir yn Ymgyrch Dudley – wedi bod yn ymchwilio i 335 o droseddau rhyw difrifol heb eu canfod ledled de Cymru sy'n mynd yn ôl sawl degawd.
Yn sgil datblygiadau mewn gwyddoniaeth fforensig, mae'r tîm, mewn cydweithrediad â'r Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd (JSIU), wedi llwyddo i adnabod troseddwyr fel Roland Long a'u dwyn gerbron y llys o'r diwedd.
Gellir rhoi gwybod am ymosodiadau rhyw neu achosion o gamdriniaeth drwy 101, neu drwy gysylltu â Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Gellir gofyn i Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) arbenigol am help, cyngor a chymorth. Ewch i https://www.newpathways.org.uk/ neu https://bipcaf.gig.cymru/our-services/iechyd-rhywiol/gwasanaethau-a-ddarperir/canolfan-cyfeirio-ymosodiadau-rhywiol-ynys-saff/ am ragor o wybodaeth.