Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:41 08/03/2022
Heddiw, cafodd Lee Whitlock, 53 oed, o'r Barri ei ddedfrydu am lofruddio Robert Farley.
Ddoe, 7 Mawrth, plediodd Whitlock yn euog o ladd Robert, ar ôl arwain swyddogion at ei gorff marw ar 3 Medi 2021.
Pan gafodd ei arestio, honnodd Whitlock fod Robert, a oedd yn cael ei adnabod fel Bobby, yn ffrind iddo ac roedd yn ymddwyn fel pe na bai'n gwybod dim byd am ei farwolaeth. Mae deunydd fideo CCTV yn ei ddangos yn cerdded heibio i gartref Robert ac yn syllu ar y ffenestr, ar ôl iddo ei lofruddio.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis:
“Mae'r sioe a roddodd Whitlock i swyddogion ar y safle, gan honni nad oedd yn gwybod dim am yr hyn a ddigwyddodd i rywun roedd yn ei alw'n ffrind, wir yn dangos ei ddiffyg edifeirwch o ddechrau'r ymchwiliad hwn.
“Diolch i waith trylwyr swyddogion a staff ar y safle, yr archwiliad fforensig a'r archwiliad o ddeunydd fideo CCTV a'r ymholiadau dilynol a ddarparodd dystiolaeth mor gryf yn ei erbyn, plediodd Whitlock yn euog a heddiw mae wedi'i garcharu i wynebu canlyniadau ei weithredoedd.”
Dedfrydwyd Lee Whitlock ar 8 Mawrth 2022 yn Llys y Goron Caerdydd i 18 mlynedd ac un mis.