Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 53 oed o'r Barri wedi pledio'n euog heddiw o lofruddio Robert Farley, y daethpwyd o hyd i'w gorff yn ei gartref yn y Barri ar 3 Medi 2021.
Am 0.38am ddydd Gwener, 3 Medi 2021, ymatebodd Heddlu De Cymru i alwad 999 yn honni bod dyn yn bygwth saethu pobl.
Am 0.40am, aeth swyddogion i The Knapp yn y Barri lle roedd Lee Whitlock, a oedd yn cyfateb i'r disgrifiad a roddwyd.
Arweiniodd Whitlock y swyddogion wedyn i gartref Robert Farley, gan honni eu bod yn ffrindiau ac nad oedd wedi clywed ganddo ers ychydig ddyddiau. Yno, daeth y swyddogion o hyd iddo wedi'i anafu'n ddifrifol, a chadarnhawyd ei fod wedi marw.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis:
“Rwy'n falch bod y diffynnydd wedi penderfynu pledio'n euog o lofruddio Robert Farley. Mae hyn yn destament i waith caled yr holl swyddogion a staff a gasglodd y dystiolaeth yn yr ymchwiliad hwn, yn ogystal â Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Cwnsler Erlyn.
“Roedd y llofruddiaeth hon yn ymosodiad ffyrnig a dideimlad ar ddyn tawel a hoffus a oedd yn annwyl iawn i'w deulu. Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a gasglwyd fod Whitlock yn unigolyn treisgar nad yw wedi dangos unrhyw edifeirwch o gwbl am ei weithredoedd.
“Rwy'n sicr bod ei gollfarn yn golygu bod trigolion y Barri a de Cymru yn ddiogelach. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r gymuned a'r tystion a gefnogodd yr ymchwiliad hwn – unwaith eto, mae eu hymrwymiad wedi cyfrannu at ganlyniad heddiw.
“Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y gollfarn hon yn rhoi rhywfaint o gysur i deulu Bobby, gan gydnabod na all yr un canlyniad ddod â Bobby yn ôl.”
Dywedodd Kim Farley, chwaer Robert:
“Roedd Bobby yn dad ac yn frawd tyner a chariadus, ac rydym yn ei golli'n enbyd. Mae'r ple euog hwn yn rhoi ymdeimlad mawr o ryddhad i ni, ac yn golygu na fydd yn rhaid i ni wynebu trawma ofnadwy treial. Fel teulu, rydym yn ddiolchgar iawn i Heddlu De Cymru am bob cymorth, ac am fod yno i ni o'r cychwyn cyntaf hyd heddiw. Rydym yn gobeithio mai'r canlyniad hwn heddiw yw'r cyfiawnder y mae Bobby yn ei haeddu.”
Bydd Lee Whitlock yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd yfory, 8 Mawrth, i'w ddedfrydu.