Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru a'r Uned Atal Trais wedi lansio ymgyrch newydd yn erbyn troseddau yn ymwneud â chyllyll, sydd wedi'i hanelu at addysgu pobl ifanc am ganlyniadau cario cyllell.
Mae Heddlu De Cymru am gymryd camau i sicrhau ymyriadau cynnar wrth fynd i'r afael â throseddau o'r fath gyda'r nod o leihau'r troseddau a'r nifer o bobl sy'n eu cyflawni.
Dangosodd adborth o sgyrsiau gyda phobl ifanc mewn ardaloedd o Dde Cymru lle mae troseddau yn ymwneud â chyllyll wedi digwydd amlaf, mai rhoi gwybod i athro, rhiant neu aelod o'r gymuned y maent yn ymddiried ynddynt fydd y rhai sydd â phryderon am droseddau cyllyll fwyaf tebygol o'i wneud.
Mae'r ymgyrch gydweithredol yn anelu at addysgu bechgyn ifanc rhwng 11 a 16 oed am beryglon a chanlyniadau cario cyllell, gan dargedu athrawon, rhieni, ffrindiau a theuluoedd â phecyn gwybodaeth addysgol. Mae'n cynnwys adnoddau megis cwisiau rhyngweithiol, cynlluniau gwersi ar gyfer addysgwyr, cwestiynau gwir neu anwir, a fideos sy'n dangos dioddefwr troseddau yn ymwneud â chyllyll a rhiant dioddefwr.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Esyr Jones:
“Mae'r ymgyrch hon wedi ei lunio gyda'n pobl ifanc ac ar eu cyfer, ac yn anelu i rymuso cymunedau i fynd i'r afael â throseddau cyllyll. Mae'n darparu gwybodaeth, arweiniad ac opsiynau atgyfeirio ar gyfer unigolion sydd â dylanwad ym mywydau pobl ifanc os ydyn nhw’n credu bod y plentyn maent yn gofalu amdano mewn perygl o gael ei ddenu i droseddu â chyllyll.
“P'un a ydych yn rhiant, athro, gweithiwr ieuenctid, hyfforddwr chwaraeon neu'n berson ifanc eich hun, mae'r pecyn hwn yn darparu gwybodaeth addysgol i chi er mwyn gwneud gwahaniaeth ac achub bywydau.