Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae elusen Crimestoppers wedi lansio apêl newydd am wybodaeth ddienw i gynorthwyo ymchwiliad Heddlu De Cymru i ddod o hyd i Mohammed Ali Ege.
Dyfernir y wobr o hyd at £5k i unrhyw un sy'n rhoi gwybodaeth i Crimestoppers yn unig a fydd yn arwain at arestio Ege a'i estraddodi'n ddiogel i'r DU, os caiff ei arestio dramor.
Maent yn chwilio amdano mewn cysylltiad â llofruddiaeth Aamir Siddiqi, 17 oed, a fu farw yn ei gartref yn Ninian Road, Y Rhath, ar 11 Ebrill 2010 ar ôl iddo ddioddef sawl clwyf trywanu.
Er bod dau ddyn wedi cael eu canfod yn euog o'i lofruddiaeth, mae Heddlu De Cymru yn parhau mor ymrwymedig ag erioed i ddod o hyd i Ege a'i arestio.
Gwnaeth Ege, sy'n 44 oed erbyn hyn, ffoi i India cyn i'r heddlu allu ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Aamir. Cafodd ei arestio yn India yn 2013, ond yn 2017, wrth aros i gael ei estraddodi, gwnaeth ddianc o'r ddalfa yn India.
Mae ei leoliad presennol yn dal i fod yn anhysbys ond, os a phryd y caiff Mohammed Ali Ege ei arestio unrhyw le yn y byd, mae trefniadau ar waith i sicrhau y bydd Heddlu De Cymru yn cael gwybod ar unwaith.
Mae Ege yn parhau i fod ar wefan 'Most Wanted' Crimestoppers.
Dywedodd Hayley Fry, Rheolwr Cenedlaethol Crimestoppers:
“Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am Mohammed Ali Ege i gysylltu â'n helusen yn gwbl ddienw cyn gynted â phosibl. Hoffem helpu i roi diwedd ar y profiad trawmatig hir hwn i deulu Aamir.
“Mae'n bwysig ein bod yn glir y gall helpu unrhyw un y mae'r heddlu yn chwilio amdano i'w gwestiynu am drosedd arwain at erlyniad. Mae ein helusen yma i bobl sy'n teimlo na allant siarad â'r heddlu yn uniongyrchol. Rydym yn annibynnol ar yr heddlu ac yn cynnig dewis amgen i roi gwybod am drosedd. Ers 1998, pan sefydlwyd Crimestoppers, rydym bob amser wedi cadw ein haddewid i gadw'r miliynau o bobl sydd wedi ymddiried ynom gyda'u gwybodaeth am drosedd, yn anhysbys.
“Mae'n rhaid bod rhywun yn gwybod ble mae Mohammed Ali Ege. Rydym yn apelio ar unrhyw sydd â gwybodaeth i wneud y peth iawn a chysylltu â ni. Gallwch gysylltu â'n Canolfan Gyswllt yn y DU, sydd ar agor 24/7, ar radffôn 0800 555 111, neu gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein ddienw syml a diogel ar www.crimestoppers-uk.org. Ni fydd neb yn gwybod eich bod wedi cysylltu â ni, a byddwch yn gwneud y peth iawn.”
***Ni fydd gwybodaeth a roddir yn uniongyrchol i'r heddlu yn gymwys ar gyfer gwobr. Dim ond gwybodaeth a rhoddir i Crimestoppers drwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein ddienw na ellir ei holrhain ar www.crimestoppers-uk.org neu drwy ffonio'r rhif rhadffôn 0800 555 111 fydd yn gymwys***
Noder: Ni chaiff cyfeiriadau IP byth eu holrhain yn Taclo'r Tacle ac ni fydd neb byth yn gwybod eich bod wedi cysylltu â'r elusen. Ni ellir gweld rhif y person sy'n ffonio, nid oes cyfleuster 1471 ac nid yw galwadau erioed wedi cael eu holrhain.