Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:41 06/03/2022
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i gorff dyn gael ei ganfod ar Draeth Porthcawl tua 10.20am ddoe (ddydd Sadwrn, 5 Mawrth).
Er gwaethaf ymholiadau helaeth yn ystod y 24 awr ddiwethaf, ni wyddom pwy ydyw.
Mae ymholiadau yn parhau er mwyn ei adnabod a hefyd ganfod beth oedd amgylchiadau ei farwolaeth, nad ydynt yn ymddangos yn amheus ar hyn o bryd.
Mae'n ddyn gwyn, 5 tr 6 modfedd, yn denau/o bwysau cymedrol, gyda gwallt byr llwyd.
Nid oes ganddo unrhyw farciau penodol megis tatŵs, ac roedd yn gwisgo esgidiau rhedeg Mishansha du a siwmper lwyd â stribedi du ar draws y frest.
Rydym hefyd yn holi heddluoedd cyfagos am adroddiadau am unrhyw ddynion coll sy'n cyfateb i’r disgrifiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dan Michel o Heddlu De Cymru: “Yn ddelfrydol, hoffem gadarnhau pwy yw'r dyn a chysylltu â'i berthynas agosaf cyn gwneud apêl gyhoeddus.
“Ond er gwaethaf ein hymholiadau helaeth ers dod o hyd i'w gorff fore dydd Sadwrn, nid ydym yn agosach at ei adnabod.
“Hoffem apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru.”
Dyfynnwch ddigwyddiad *073939, :
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Neu anfonwch neges breifat atom ar Facebook neu Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101