Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Defnyddiodd Heddlu De Cymru dechnoleg Adnabod Wynebau Fyw ddydd Sadwrn 19 Mawrth, o hanner dydd nes 5pm yng nghanol dinas Caerdydd.
Y diben oedd treialu'r dechnoleg Adnabod Wynebau Fyw ar ddiwrnod prysur yng nghanol y ddinas. Roedd yn cefnogi gwerthusiad annibynnol a gynhaliwyd mewn ymateb i ddyfarniad gan y Llys Apêl yn 2020, a dynnodd sylw at nifer bach o feysydd polisi yr oedd angen eu harchwilio a'u datrys.
Yn ystod yr ymarfer treialu, a ddefnyddiodd restr wylio o unigolion penodol dan amheuaeth, llwyddwyd i adnabod tri unigolyn yn gywir a chafodd dau ohonynt eu harestio – un a oedd dan amheuaeth o ymosod ar un o swyddogion dalfa'r heddlu a'r llall am beidio ag ymddangos yn y llys ar gyfer trosedd trefn gyhoeddus. Roedd trydydd dyn, yr oedd yr heddlu am ei ddal am dorri gorchymyn goruchwylio, wedi rhedeg i ffwrdd o'r ardal ar ôl gweld swyddogion yr heddlu.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Travis: “Rydym yn defnyddio Technoleg Adnabod Wynebau i amddiffyn aelodau'r cyhoedd a'u cadw'n ddiogel drwy ein helpu i adnabod troseddwyr difrifol ar ein strydoedd. Rwy'n falch ein bod wedi llwyddo i adnabod dau droseddwr a'u harestio yn ystod yr ymarfer treialu hwn, a chafodd un o'r rhain ei arestio am drosedd ymosod. Llwyddwyd i adnabod tri unigolyn yn gywir yn ystod yr ymarfer treialu. Cafodd y tri achos hyn eu dilysu gan swyddogion ac mae'n werth nodi na chafodd neb eu hadnabod ar gam. Bydd yr ymarfer treialu yn ein galluogi i atgyfnerthu ein polisïau gweithredol a gwella hyder y cyhoedd yn y dechnoleg hon, oherwydd dyluniwyd yr ymarferion treialu hyn i wrthsefyll yr heriau cyfreithiol cryfaf a chraffu cyhoeddus manwl”.
“Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn craffu ar bob achos lle defnyddir y dechnoleg hon ac mae wedi nodi'n glir bod disgwyl i benderfyniadau gweithredol gydbwyso'r angen i ddiogelu'r cyhoedd a'r angen i ddiogelu rhyddid sifil. Mae'r Prif Gwnstabl wedi datgan yn glir bod yn rhaid sicrhau'r cydbwysedd hwnnw wrth wneud penderfyniadau gweithredol.”
Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i brofi'r system er mwyn sicrhau nad oes perygl o dorri gofynion cydraddoldeb drwy ragfarn neu wahaniaethu. Caiff mwy o ymarferion treialu eu cynnal dros y misoedd nesaf a bydd y penderfyniadau gweithredol a wneir yn destun trefniadau craffu manwl.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael: "Rwy'n craffu'n agos ar benderfyniadau gweithredol ar gyflwyno technoleg ac yn sicrhau goruchwyliaeth a chraffu annibynnol ar bob cam newydd, oherwydd y pryderon moesegol a chymdeithasol a fynegwyd am y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau. O'r dechrau mae trefniadau craffu agos wedi cael eu rhoi ar waith a thrafodaethau wedi cael eu cynnal rhyngof fi a'r Prif Gwnstabl er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y cydbwysedd cywir rhwng diogelu'r cyhoedd a diogelu rhyddid sifil. I mi, mae hynny'n un o egwyddorion sylfaenol ein hymagwedd at blismona. Mae pobl am wybod na fydd aelodau o'r cyhoedd nad ydynt wedi gwneud dim o'i le yn wynebu goruchwyliaeth amhriodol, ac y caiff eu preifatrwydd a'u hanhysbysrwydd ei barchu a'i ddiogelu. Fodd bynnag, mae pobl hefyd am i ni eu cadw'n ddiogel ac i ddefnyddio'r dechnoleg i ddal pobl sydd wedi cyflawni troseddau difrifol, a'u tynnu oddi ar y strydoedd. O ganlyniad i'r systemau craffu a herio cadarn sydd ar waith yn Ne Cymru, gallaf sicrhau'r cyhoedd ein bod yn taro'r cydbwysedd cywir. Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu hawliau dynol yn ogystal â chadw'r cyhoedd yn ddiogel.
“Mae swyddogion yr heddlu bob amser wedi gallu gweld neu adnabod unigolyn y maen nhw'n gwybod – neu'n meddwl eu bod yn gwybod – sydd dan amheuaeth o gyflawni trosedd, a'i stopio ar y stryd. Y gwahaniaeth gyda'r dechnoleg hon yw cyflymder a chywirdeb y broses o adnabod ac arestio'r unigolyn, a chyflymder datrys achosion o gam-adnabod unigolion.
“Mae'r egwyddorion a'r moesau rydym yn eu cymhwyso yn destun craffu gan y Pwyllgor Moeseg, sy'n cynnwys arbenigwyr allanol o'r byd academaidd ac o'r sectorau preifat a chyhoeddus”.