Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn bwriadu dechrau treialu defnyddio technoleg Adnabod Wynebau Byw fel rhan o'i ymrwymiad tuag at sicrhau bod y defnydd o dechnoleg yn diwallu ein cyfrifoldebau i'r cyhoedd mewn ffordd sy'n gymesur a chyfreithlon.
Gwnaeth dyfarniad yn y Llys Apêl yn 2020 dynnu sylw at nifer bach o feysydd polisi yr oedd angen eu harchwilio a'u datrys.
Fel rhan o ymateb yr Heddlu i'r dyfarniad, bydd nifer o dreialon yn digwydd yng nghanol dinas Caerdydd i brofi'r system er mwyn sicrhau na fydd unrhyw risg o fynd yn groes i ofynion cydraddoldeb drwy greu rhagfarn neu wahaniaethu.
Bydd y treial yn digwydd ar 19 Mawrth 2022 yng nghanol dinas Caerdydd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Mark Travis: “Mae'r her gyfreithiol drwy'r llysoedd i'n defnydd o'r dechnoleg sy'n torri tir newydd wedi ein galluogi i sicrhau bod ei ddefnydd yn gyfrifol, cymesur a theg.
“Diben defnyddio technoleg adnabod wynebau yw cadw'r cyhoedd yn ddiogel a'n helpu i adnabod troseddwyr difrifol er mwyn diogelu ein cymunedau rhag unigolion sy'n peri risg sylweddol iddynt.
“Credaf y bydd y cyhoedd yn parhau i'n cefnogi i ddefnyddio pob dull a thechnoleg sydd ar gael i'w cadw'n ddiogel, ar yr amod bod yr hyn rydym yn ei wneud yn ddilys ac yn gymesur.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddatblygu a dosbarthu'r dechnoleg adnabod wynebau'n ofalus, ac mae'n ymfalchïo yn y ffaith na fu erioed arestiad anghyfreithlon o ganlyniad i ddefnyddio'r dechnoleg yn Ne Cymru.
Cyn yr her yn y Llys Apêl, arweiniodd y defnydd amser byw o dechnoleg adnabod wynebau yn ardal yr heddlu at arestio 61 o bobl am droseddau yn gynnwys lladrad a thrais, dwyn a pheidio ag ymateb i warantau llys. Cawsant eu defnyddio mewn digwyddiadau yn amrywio o ddigwyddiadau chwaraeon a cyhoeddus mawr yng Nghaerdydd ac Abertawe i gefnogi ymgyrchoedd i fynd i'r afael â throseddoldeb lleol.
Ychwanegodd ACC Thorne: “Nid oedd unrhyw beth yn nyfarniad y Llys Apêl a oedd, yn y bôn, yn tanseilio'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau er mwyn diogelu'r cyhoedd, ac rwy'n falch y bydd y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers 2020 yn atgyfnerthu'r polisïau gweithredol sydd gennym ar waith, gan ennill cefnogaeth y cyhoedd gan fod y dechnoleg wedi cael ei chynllunio i wrthsefyll yr her gyfreithiol gadarnaf a chraffu cyhoeddus.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael: "Rwy'n craffu'n agos ar benderfyniadau gweithredol ar gyflwyno technoleg ac yn sicrhau goruchwyliaeth a chraffu annibynnol ar bob cam newydd, oherwydd y pryderon moesegol a chymdeithasol a fynegwyd am y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau. Mae pobl am wybod na fydd aelodau o'r cyhoedd nad ydynt wedi gwneud dim o'i le yn wynebu goruchwyliaeth amhriodol, a sicrhau y caiff eu preifatrwydd a'u hanhysbysrwydd ei barchu a'i ddiogelu. Fodd bynnag, mae pobl hefyd am i ni eu cadw'n ddiogel ac i ddefnyddio'r dechnoleg i ddal pobl sydd wedi cyflawni troseddau difrifol, a'u tynnu oddi ar y strydoedd. O ganlyniad i'r systemau craffu a herio cadarn sydd ar waith, gallaf sicrhau'r cyhoedd ein bod yn taro'r cydbwysedd cywir. Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu hawliau dynol yn ogystal â chadw'r cyhoedd yn ddiogel.
"Mae swyddogion yr heddlu bob amser wedi gallu adnabod unigolyn y mae'r heddlu yn awyddus i'w ddal mewn cysylltiad â throsedd, a'i stopio ar y stryd. Y gwahaniaeth gyda'r dechnoleg hon yw cyflymder a chywirdeb y broses o adnabod ac arestio'r unigolyn, a chyflymder datrys achosion o gam-adnabod unigolion.”