Mae Heddlu De Cymru yn falch o gynrychioli a diogelu'r holl gymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Mae gan Gaerdydd hanes ardderchog o weithio mewn partneriaeth sydd wedi helpu i sicrhau bod ei heconomi liw nos yn ddiogel yn ogystal â bywiog a chroesawgar.
Caiff rhai o'r ymyriadau a ddefnyddir yng nghanol y ddinas eu hystyried yn enghreifftiau o arfer dda ac maent wedi cael eu mabwysiadu gan heddluoedd eraill.
Fodd bynnag, rydym yn deall bod digwyddiadau diweddar wedi peri pryder ac, fel bob amser, rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid megis yr awdurdod lleol, prifysgolion a For Cardiff er mwyn parhau i wneud Caerdydd yn lle diogel i'n trigolion a'n hymwelwyr.
Rydym yn cynnal patrolau amlwg iawn ym mhob rhan o ganol y ddinas a'r cyffiniau er mwyn atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dyma rai enghreifftiau diweddar o'r ffyrdd rydym yn mynd ati i gadw cymunedau Caerdydd yn ddiogel:
- Ym mis Hydref 2021, lansiodd Heddlu De Cymru a Rhwydwaith LHDT+ Heddlu De Cymru bartneriaeth sydd â'r nod o annog aelodau o'r gymuned LHDT+ i roi gwybod am droseddau casineb. PCSO Blane Thomas a sefydlodd y cynllun partneriaeth, a chynhelir digwyddiadau rheolaidd yn y lleoliadau LHDT+ yng nghanol dinas Caerdydd er mwyn i aelodau'r gymuned a phobl sy'n gweithio yn y lleoliadau roi adborth i Heddlu De Cymru ar unrhyw densiynau neu bryderon, cael tawelwch meddwl a chefnogaeth.
- Rydym yn gweithio gyda safleoedd trwyddedig er mwyn helpu i uwchsgilio eu staff ynghylch materion yn ymwneud â'r gymuned LHDT+ a throseddau casineb fel y bydd y sefyllfa o ran canfod troseddau a rhoi gwybod amdanynt yn gwella ymhellach.
- Cynhelir patrolau mewn dillad plaen ym Mharc Bute er mwyn casglu gwybodaeth a chanfod troseddwyr. Yn ogystal â'r patrolau hyn, cynhelir patrolau amlwg iawn er mwyn rhoi tawelwch meddwl ac atal troseddu.
- Yn y flwyddyn academaidd hon yn unig, mae tua 1,500 o bobl, sef myfyrwyr gan mwyaf, wedi cael help i gyrraedd man diogel diolch i Fws Diogelwch Caerdydd.
- Ymgyrch Minerva – swyddogion mewn dillad plaen ar batrôl yng nghanol y ddinas gyda'r nos ar benwythnosau er mwyn canfod pobl y gallai rhywun gamfanteisio arnynt, dioddefwyr troseddau neu gyflawnwyr troseddau, gan roi ymyriadau ar waith er mwyn diogelu pobl ac atal troseddu.
- Caerdydd a'r Fro Wedi'r Hwyr – caiff swyddogion ychwanegol eu hanfon i ganol y ddinas rhwng 7pm a 7am ar nos Wener / Sadwrn ac ar benwythnosau digwyddiadau er mwyn sicrhau bod yr heddlu'n fwy gweladwy a rhoi tawelwch meddwl i bobl sy'n mwynhau'r economi liw nos.
- Fel rhan o strategaeth Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, rydym yn treialu adnodd ar-lein newydd o'r enw StreetSafe sy'n galluogi pobl i nodi lleoliadau lle y maent wedi teimlo'n anniogel a nodi pam eu bod wedi teimlo'n anniogel yn y lleoliad hwnnw. Gan ddefnyddio'r wybodaeth honno, gallwn gyfarwyddo ein patrolau a mynd ati gyda'n partneriaid i wella seilwaith megis goleuadau a systemau teledu cylch cyfyng.
- Hefyd, mae Heddlu De Cymru wedi rhoi hyfforddiant i staff mewn safleoedd trwyddedig yng nghanol y ddinas i'w helpu i adnabod a diogelu pobl sy'n agored i niwed ac rydym yn gweld enghreifftiau lle mae'r hyfforddiant hwn wedi talu ar ei ganfed yn rheolaidd. Mae bwâu cyllyll a ffyn chwilio ar gael i safleoedd yng nghanol dinas Caerdydd er mwyn rhoi tawelwch meddwl yn ystod y pryderon presennol ynglŷn â sbeicio a throseddau'n ymwneud â chyllyll. Rhoddir ffyn chwilio pan ofynnir amdanynt.
Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu i gadw cymunedau'n ddiogel a sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel wrth iddynt fyw eu bywydau pob dydd.
Mae opsiynau eraill ar gael ar wahân i ffonio 101, ac rydym yn annog pobl i gysylltu â ni i roi gwybod am ddigwyddiadau nad ydynt yn rhai brys:
Ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]