Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
… a'u dull teithio dihafal newydd!
Mae dau aelod pedair coes o staff wedi ymuno â thimau Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent ac maen nhw'n rhoi eu pawennau gorau ymlaen er mwyn cefnogi lles meddyliol swyddogion yr heddlu, staff a gwirfoddolwyr ym mhob rhan o'r ddau Heddlu a meithrin cydberthnasau yn y gymuned.
Carter, sy'n groesfrid Malinois Belgaidd/Ci Blaidd 4 oed, a Winnie, sy'n Llamgi 3 oed, yw ein Cŵn Cymorth Llesiant a Thrawma cyntaf ac maen nhw wedi bod ar waith ers mis Rhagfyr 2020. Maen nhw'n gyfrifol am ddarparu presenoldeb llonyddol ac maen nhw wedi helpu swyddogion i ddelio ag amgylchiadau trawmatig a llawn straen a phrosesau ôl-drafod.
Kaylee Noble, sydd wedi cael hyfforddiant ym maes Iechyd Meddwl Cymorth Cyntaf, yw Hyfforddwr Llesiant Cŵn yr heddlu. Mae Carter yn byw gyda Kaylee ac mae Winnie yn byw gyda Rhingyll Kaylee, Andrew Patterson.
“Nawr dw i ddim yn hoffi dweud eu bod wedi methu, maen nhw'n cael eu defnyddio at ddiben amgen!” meddai Kaylee.
“Phasiodd Carter na Winne ddim eu profion i fod yn gŵn gweithredol, ond mae eu rolau Llesiant yn gweithio'n well i bawb.
“Maen nhw'n wynebau blewog cyfarwydd ymhlith y staff ac mae'r tri ohonom yn gweithio chwe diwrnod ar ddyletswydd, tri diwrnod i ffwrdd – nid dim ond rhwng dydd Llun a dydd Gwener y mae angen gofalu am lesiant staff, plismona yw hwn!
“Mae'n wych gweld faint o effaith y gall y cŵn ei chael ar swyddogion a staff. Mae cyflymder y galon yn gostwng ac maen nhw'n cael effaith lonyddol ar unwaith. Mae'n gwbl wahanol i'r adegau pryd y byddwn yn cerdded i mewn i gyfarfod briffio ar fy mhen fy hun.
“Mae'r adborth rydym wedi'i gael ar ôl ymweliadau wedi bod mor gadarnhaol. Mae pobl yn fwy parod i siarad yn agored, pobl sydd erioed wedi gwneud hynny o'r blaen.
“Mae unigolion wedi dweud wrtha i fod yr ymweliadau wir wedi helpu aelodau o'r heddlu sy'n mynd drwy gyfnodau anodd.
“Fyddai'r rhaglen ddim wedi bod yn bosibl heb fy Rhingyll, Andrew Patterson, a Rheolwr Iard Heddlu De Cymru Katrina Edmonds-Daniel sy'n rhan fawr o'r tîm.
“Rwy'n teimlo mai dim ond craffu wyneb yr hyn y gall y cŵn hyn ei wneud rydym ar hyn o bryd. Mae'r tîm cyfan yn benderfynol o wneud gwahaniaeth i'r heddlu a'r gymuned ehangach.”
Dywedodd yr Arolygydd Damien McKeon o Heddlu De Cymru:
“Pan gerddodd Kaylee i mewn i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus gyda Carter a Winnie yn gwisgo eu cotiau bach ac yn ysgwyd eu cynffonau roedd gwên ar wynebau pawb yn yr ystafell.
“Cafodd diddordeb y staff ei ennyn ar unwaith a ffurfiwyd ciw i gymryd eu tro. Gallech deimlo'r awyrgylch yn yr ystafell yn ysgafnhau. Roedd y staff wrth eu bodd yn rhoi cwtsh i Winnie a'r cyfan y gallech ei glywed oedd 'w!' ac 'a!'.
“Pan wnaethon nhw adael, roedd pawb mewn hwyliau da. Cododd eu hysbryd a rhoddodd hwb i forâl. Rwyf wir yn credu bod y tîm wedi cael budd o'r ymweliad a'i fod yn edrych ymlaen at y tro nesaf.”
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Mark Travis:
“Rydym yn cymryd llesiant ein swyddogion, ein staff a'n gwirfoddolwyr o ddifrif ac yn gwybod pa mor bwysig ydyw. Mae hwn yn dangos ymrwymiad ymarferol a brofwyd i lesiant staff.
“Nid yw'n gyfrinach bod gweithio ym maes plismona yn cael effaith gorfforol a seicolegol pan fyddwn yn ymwneud â thrawma yn rheolaidd.
“Mae cŵn yn ffordd wych o helpu cydweithwyr i siarad yn agored am yr heriau sy'n gysylltiedig â phlismona.”
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Amanda Blakeman:
“Mae'n wych bod Carter a Winnie wedi ymuno â'n teulu plismona, mae eu presenoldeb eisoes wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
“Fel dau heddlu, rydym yn cydweithio'n agos mewn sawl maes ac mae llesiant yn flaenoriaeth allweddol i'r ddau heddlu.
“Heddiw rydym wedi lansio'r fan llesiant newydd a fydd yn helpu Carter a Winnie wrth iddynt deithio ledled ardaloedd y ddau heddlu yn cyflawni eu rolau."
Mae'r fan lesiant wedi'i noddi gan Euro Commercials a fydd yn galluogi'r tîm i deithio ledled ardaloedd heddluoedd De Cymru a Gwent.
Er mai adnodd mewnol yn unig yw hwn ar hyn o bryd, mae Kaylee wedi mynd â'r cŵn i ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned ac mae'r heddlu yn gobeithio cynyddu eu presenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol ac ysgolion ledled De Cymru. Mae'r cŵn hefyd ar gael i swyddogion a staff Heddlu Gwent.
Mae Carter a Winnie wedi ymuno â'r tîm drwy gangen ‘OK9’ o Oscar Kilo, sef Gwasanaeth Llesiant Cenedlaethol yr Heddlu. Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o 30 o Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub ledled y DU. Nod y gwasanaeth yw sicrhau bod cŵn llesiant ar gael i bob heddlu sy'n awyddus i gyflwyno cŵn fel rhan o'i ddarpariaeth lesiant.