Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd dau ddeliwr cyffuriau a ddaliwyd yng nghanol tref Aberdâr gyda heroin ac arian parod eu carcharu'n ddiweddar.
Jonathan Hayton |
Matthew Read |
Ymddangosodd Jonathan Hayton, 41, o Erw Las, Penywaun, a Matthew Read, heb gartref sefydlog, yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 17 Ionawr a chawsant eu carcharu am gyfanswm o naw mlynedd a phedwar mis.
Cawsant eu stopio a'u chwilio gan swyddogion o dîm Ymgyrch Sceptre yng Nghanol Tref Aberdâr ar 1 Rhagfyr ar ôl cael eu gweld yn gyrru i ffwrdd yn gyflym o swyddogion mewn BMW du. Cafodd heroin ac arian parod eu hatafaelu ac aethpwyd â nhw i'r ddalfa.
Sefydlwyd timau Ymgyrch Sceptre gan Heddlu De Cymru er mwyn mynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol a delio mewn cyffuriau.
Yn ystod chwiliad yng ngorsaf yr heddlu, canfuwyd bod Hayton yn cuddio heroin a ffôn symudol yn ei lodrau isaf.
Chwiliodd swyddogion yr heddlu ddau eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r dynion hefyd a chanfod miloedd o bunnau mewn arian parod.
Datgelodd gwaith dadansoddi fforensig a wnaed ar eu ffonau symudol negeseuon a oedd yn amlwg yn gysylltiedig â delio mewn cyffuriau.
Cafodd cyfanswm o 58 o wrapiau o heroin ac arian parod gwerth mwy na £2000 eu hatafaelu.
Plediodd Matthew Read yn euog o fod â heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi a hefyd o fod yn ymwneud â chyflenwi heroin. Cafodd ei garcharu am chwe blynedd.
Plediodd Jonathan Hayton yn euog o fod â heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi a chafodd ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Gareth Jenkins:
"Aeth y ddau ddyn i banig pan wnaethant ein gweld a gyrru i ffwrdd yn gyflym. Ond o fewn awr roeddent wedi dychwelyd, yn ddiau er mwyn gwerthu cyffuriau i'w cwsmeriaid disgwylgar, ond roeddem yn aros amdanynt a gwnaethom eu harestio.
"Roedd y dynion hyn yn llythrennol yn pedlo trallod ar strydoedd Aberdâr. Mae dioddefaint na ellir ei ddychmygu yn cael ei achosi gan gaethiwed i gyffuriau ac maent yn ei fwydo er mwyn eu mantais bersonol eu hunain. Y carchar yw'r lle iddyn nhw.”