Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a gafwyd yn euog yn flaenorol o droseddau o dan y Ddeddf Terfysgaeth wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol er mwyn atal troseddu pellach.
Cafwyd Nathan Saunders, 28 oed o Dredegar, yn euog o drosedd o dan y Ddeddf Terfysgaeth yn 2017, ac yn gynharach eleni, plediodd yn euog i dair trosedd o dorri Gorchymyn Hysbysu Rhif 4 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi gwybod i'r heddlu am newid i'w amgylchiadau personol, yr oedd wedi methu â gwneud hynny. Fe'i cafwyd yn euog hefyd o fod ym meddiant eitem lafnog yn dilyn digwyddiad trefn gyhoeddus yng Nghasnewydd.
Mae gwrandawiad bellach wedi'i gynnal yn Llys y Goron Casnewydd sydd wedi gosod Gorchymyn Ymddygiad Troseddol ar Saunders i gyfyngu ar ei weithgareddau ar-lein yn ogystal â gofynion eraill.
Mae Saunders wedi'i atal rhag bod yn berchen ar fwy nag un ffôn symudol neu ddefnyddio mwy nag un ffôn symudol, un cerdyn SIM ac un rhif ffôn, ynghyd ag un llechen ac un cyfrifiadur, ac mae'n rhaid i'r rhain allu cadw a dangos hanes ei ddefnydd o'r rhyngrwyd. Rhaid iddo roi manylion y dyfeisiau i Blismona Gwrthderfysgaeth Cymru. Mae'n ei gwahardd hefyd rhag dileu ei hanes pori'r rhyngrwyd.
Gallai unrhyw achos o dorri'r gorchymyn arwain at anfon Saunders i'r carchar neu roi dirwy iddo.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Jim Hall, pennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru:
“Gwnaeth Saunders dorri gorchymyn a oedd wedi'i osod arno i ddiogelu'r cyhoedd yn dilyn euogfarn flaenorol am drosedd o dan y Ddeddf Terfysgaeth.
“Ar ôl i'r llysoedd ddelio ag ef mewn perthynas â'r achos hwnnw o dorri gorchymyn, rydym bellach wedi gofyn am Orchymyn Ymddygiad Troseddol a fydd yn cyfyngu ar ei weithgareddau ar-lein. Byddwn yn parhau i fynd i'r afael yn gadarn â'r bobl hynny sy'n torri'r gyfraith yn gyson ac sy'n peri bygythiad i'n cymunedau.
“Mae swyddogion o bob rhan o'r rhwydwaith Plismona Gwrthderfysgaeth yn gweithio ddydd a nos i ddiogelu'r cyhoedd rhag y rhai a allai fod am ein niweidio. Gall y cyhoedd ein helpu drwy gysylltu â ni os byddant yn gweld rhywbeth sy'n peri pryder.”
Bob blwyddyn, mae miloedd o adroddiadau gan y cyhoedd yn helpu'r heddlu i gadw cymunedau'n ddiogel rhag terfysgaeth. Os byddwch yn gweld neu'n clywed unrhyw beth amheus neu sy'n peri pryder, gallwch roi gwybod i'r heddlu amdano, yn gyfrinachol, drwy ffonio 0800 789 321 neu ar-lein yn www.gov.uk/ACT
Mewn argyfwng, neu os bydd angen cymorth yr heddlu arnoch ar frys, dylech ffonio 999 bob amser.