Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:51 10/03/2022
Mwclis arbennig ymhlith yr eitemau a gafodd eu dwyn o dŷ ar Hollybush Road, Caerdydd.
Mae ditectifs yn cynnal ymholiadau i geisio adnabod ac arestio'r rhai a fu'n gyfrifol am y fwrgleriaeth ddydd Gwener 4 Mawrth.
Agorwyd drws ffrynt y tŷ drwy rym rywbryd rhwng 11:40 a 13:40.
A welsoch chi unrhyw un yn yr ardal ar y pryd? A ydych wedi gweld y mwclis hwn – a gemwaith gwerthfawr arall – yn cael eu cynnig i'w gwerthu?
A welsoch chi unrhyw un yn yr ardal ar y pryd? A ydych wedi gweld y mwclis hwn – a gemwaith gwerthfawr arall – yn cael eu cynnig i'w gwerthu?
Cafodd llawer o emwaith, gan gynnwys mwclisau, modrwyon a chlustdlysau aur, gwerth hyd at £25k eu dwyn ynghyd â swm sylweddol o arian.
Mae dioddef bwrgleriaeth yn drawmatig ac rydym yn ymrwymedig i atal a chanfod bwrgleriaethau.
Cynghorir perchnogion tai i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod am unrhyw weithgarwch amheus.
Dylai'r rhai sydd â gemwaith drud ystyried defnyddio cyfleuster blwch diogelwch neu osod coffor o ansawdd da yn sownd i'r wal neu'r llawr.
Os oes gennych wybodaeth am y fwrgleriaeth hon, cysylltwch â ni gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2200072913.
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101