Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:05 08/03/2022
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth mewn perthynas â lladrad arfog a ddigwyddodd ar hyd y llwybr troed sy'n rhedeg ar hyd y B4594 ac sy'n cysylltu â Power Station Hill, Ton-teg a Phrifysgol De Cymru, Trefforest, tua 10.45am ddydd Llun 28 Chwefror.
Roedd bachgen 17 oed yn cerdded adref o'r ysgol i gyfeiriad y Brifysgol (dangosir y llwybr yn y fideo) pan aeth dau ddyn ato, yr oedd un ohonynt yn cario cyllell (sydd wedi'i disgrifio'n gyllell gerfio â llafn lyfn tua 20cm o hyd), a mynnu arian ganddo. Gorfodwyd y bachgen i roi £120 iddynt mewn arian parod.
Digwyddodd y lladrad ger y meinciau picnic a'r cofebion. Dihangodd y ddau ddyn i gyfeiriad Ton-teg.
Dywedir bod y ddau ohonynt yn ddynion du main, yn eu hugeiniau cynnar, tua chwe throedfedd o daldra. Roeddent yn gwisgo snŵd dros eu hwynebau, capiau pig, hwdis wedi'u tynnu dros eu capiau a throwsus tracsiwt du. Yr unig wahaniaeth amlwg rhwng y ddau ddyn oedd bod yr un a oedd yn cario cyllell yn gwisgo siaced sip ddu Nike, a bod y llall yn gwisgo cot ddu 'puffer'.
Mae deunydd CCTV wedi'i archwilio'n helaeth yn yr ardaloedd cyfagos ac rydym yn parhau i geisio adnabod yr unigolion cyfrifol. Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni gan ddyfynnu 2200068036.