Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i lofruddiaeth June Fox Roberts ym mis Tachwedd y llynedd yn apelio am help gan y cyhoedd
Ffôn Symudol:
Mae'r iPhone 11 sydd ar goll mewn cas coch sy'n agor. Yr IMEI yw 356809119984924 a'r rhif cyfresol yw GONDC2KFM737. Mae swyddogion o'r farn y gall y ffôn, na chredir ei fod wedi'i ddifrodi, fod wedi cael ei ollwng, ei daflu neu hyd yn oed ei werthu i brynwr diarwybod yn ôl ym mis Tachwedd – dylai unrhyw un a all fod wedi prynu'r ffôn edrych ar y rhifau cyfresol.
Dillad:
Mae swyddogion hefyd yn ceisio dod o hyd i'r siwmper goch â hwd â llinynnau i'w dynnu a siaced ddu hyd at y canol â hwd, y mae'r ddwy eitem yn y llun. Maent o'r farn y gall y dillad hyn fod wedi cael eu taflu rhywle rhwng Llantwit Faerdref a Phontypridd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Matt Powell, sy'n arwain yr ymchwiliad:
“Mae swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol yn parhau i gefnogi teulu June yn ystod cyfnod anodd iawn.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am help a chefnogaeth y cyhoedd hyd yma ac mae ein hymchwiliad yn parhau.
“Er i ni chwilio â chrib fân, nid ydym wedi llwyddo i ddod o hyd i'r eitemau hyn. Rydym o'r farn eu bod nhw fwy na thebyg wedi cael eu taflu rhywle rhwng Llantwit Faerdref a Phontypridd. Gofynnir i weithwyr fferm, cerddwyr a hefyd drigolion pentrefi rhwng y ddau leoliad hyn gadw llygad amdanynt. Dylai unrhyw un sy'n dod ar eu traws gysylltu â ni heb gyffwrdd â'r eitemau. Bydd hyn yn sicrhau y gall swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant eu hadfer yn y ffordd gywir fel na fydd tystiolaeth bosibl yn cael ei cholli.”
Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r Ystafell Troseddau Mawr ar 029 20 571 530 neu gellir cyflwyno gwybodaeth drwy'r porth cyhoeddus https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B41-PO1
Cafodd June Fox-Roberts ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Llantwit Faerdref ddydd Sul 21 Tachwedd 2021. Mae Luke Deeley, 25 oed, o Bontypridd wedi cael ei gyhuddo o'i llofruddio.
Llun: Siwmper goch â hwd a siaced ddu hyd at y canol.