Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:33 19/05/2022
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau mai'r wraig y daethpwyd o hyd iddi wedi marw mewn cyfeiriad ar Glas y Deri, Waunarlwydd ddydd Llun, 16 Mai, oedd Kelly Randall, 45 mlwydd oed. Mae teulu Ms Randall yn cael cefnogaeth gan swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.
Mae'r dyn 67 mlwydd oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth Ms Randall wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra gwneir ymchwiliadau pellach. Mae'r dyn 42 mlwydd wedi cael ei ryddhau heb gamau pellach.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr yr heddlu: "Cynhaliwyd archwiliad post mortem fforensig ddoe, dydd Mercher 18 Mai, ac ni ellir esbonio achos marwolaeth Ms Randall ar hyn o bryd ac mae'r ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.
"O ganlyniad, caiff profion pellach eu cynnal dros yr wythnosau nesaf.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu hamynedd a'u cymorth dros y dyddiau diwethaf wrth i'r ymchwiliad barhau."
Gofynnir i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad gysylltu â ni yn https://bit.ly/SWPProvideInfo neu ffonio 101 a dyfynnu rhif cyfeirnod 2200149152.